Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Carfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned Taf-elái
1 swydd amser llawn barhaol
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau ar gyfer swydd Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol yn rhan o Garfan Iechyd Meddwl Cymuned Taf-elái ym Mharc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LB. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar weithio gydag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl. Mae'r garfan yn cynnwys Rheolwr Carfan, Blaen Weithiwr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy - AMHP), Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Arweinydd y Garfan Nyrsio, Seiciatryddion a Therapydd Galwedigaethol.
Mae'n rhaid eich bod chi'n meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig h.y. gradd mewn gwaith cymdeithasol, diploma mewn gwaith cymdeithasol neu Dystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol. Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o garfan a deall cryfderau a heriau gwaith aml-ddisgyblaethol. Rhaid bod gyda chi'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd. Bydd angen ymgymryd ag asesiadau o anghenion unigolion a'u cynhalwyr, cyd-baratoi a gweithredu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth lle bo angen a bod yn Gydlynydd Gofal. Bydd angen gweithio yn unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, megis Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Bydd angen dealltwriaeth o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ogystal.
Mae'r swydd yn heriol a bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth ac ymroddiad o agwedd ar sail gwella tuag at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd. Bydd ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, e.e. dyfarniadau Ôl-gymhwyso CPEL, neu'r cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol yn eu cyfweliad.
I gael ragor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol ffoniwch y Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad.
Sean Gallagher – 01443 443 844 neu Sean.T.Gallagher
Carfan Iechyd Meddwl Taf-elái, Parc Iechyd Dewi Sant, Heol Albert, Pontypridd, CF37 1LB
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.