Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth / Hwb Diogelu Amlasiantaeth
37 awr yr wythnos – Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Gradd 11 £44,253 y flwyddyn Lefel mynediad hyd at 3 blynedd o brofiad sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 £47,665 y flwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Y Swydd
Y Garfan yw'r man cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar gyfer Gwasanaethau i Blant RhCT. Mae'r Garfan yn penderfynu p'un ai bod eisiau rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth neu ymchwilio i bryderon ynghylch mater diogelu.
Ynglŷn â'r garfan
Byddwch chi'n gweithio’n rhan o'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth mewn amgylchedd prysur, medrus a brwdfrydig sydd wedi’i hen sefydlu ac sy'n ymgymryd ag ymholiadau gan deuluoedd, aelodau o'r cyhoedd ac asiantaethau partner i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant. Yn gyffredinol mae'r garfan yn cynnwys Blaen Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Materion Asesu Gofal. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn cynnal pob ymholiad dros y ffôn, sy'n gwneud y rôl yn addas i'r rhai sy'n chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid.
Pam gweithio i ni?
Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol sy'n cefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymuso gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn ein rhaglen hyfforddi fewnol bwrpasol ar ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer y Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant
Am ragor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol, ffoniwch y rheolwr: Laura Shott (Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad) ar 01443 425006
Gwybodaeth Ychwanegol
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.