Carfan Cymorth i Gynhalwyr sy'n Berthnasau gyda Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf x 37 awr
UNED 2, PARC BUSNES HEN LOFA'R MARITIME, YSTAD DDIWYDIANNOL HEN LOFA'R MARITIME, PONTYPRIDD
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymruv
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol i ymuno â'n Carfan Cymorth i Gynhalwyr sy'n Berthnasau gyda Maethu Cymru RhCT.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o garfan dawnus, profiadol ac ymroddedig sy'n gweithio ochr yn ochr â Rhieni Maeth sy'n Berthnasau a Gwarcheidwaid Arbennig i helpu plant i gadw'n ddiogel yn eu rhwydweithiau teulu a chymorth. Mae'r garfan yn rhoi cymorth i rai o'r teuluoedd yn y sefyllfaoedd mwyaf cymhleth ac mae wedi ymrwymo i gyflawni'r deilliannau gorau i blant trwy ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac yn seiliedig ar gryfderau.
Gan weithio'n agos gyda phlant, gwarcheidwaid, aelodau o'r teulu a gweithwyr proffesiynol, byddwch chi'n darparu cymorth, arweiniad a goruchwyliaeth sy'n hyrwyddo sefydlogrwydd a deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifainc.
Amdanoch Chi
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd yn:
- Meddu ar ddealltwriaeth gref o anghenion plant nad ydyn nhw'n gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol.
- Meddu ar brofiad o weithio gyda pherthnasoedd teuluol cymhleth a rhwydweithiau perthnasau.
- Gallu i feithrin perthnasoedd wrth gynnal chwilfrydedd proffesiynol.
- Meddu ar sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio ardderchog.
- Ymrwymo i ymarfer gwrth-ormesol, yn seiliedig ar gryfderau.
- Rhannu ein angerdd am gyflawni'r deilliannau gorau i blant a'u teuluoedd.
- Meddu ar brofiad o weithio gyda rhieni maeth, gwarcheidwaid sy'n berthnasau neu warcheidwaid arbennig.
- Meddu ar dealltwriaeth a phrofiad o faethu, gofal perthnasau a chynllunio sefydlogrwydd, gan gynnwys dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth, rheoliadau ac ymarfer gorau sy'n ategu'r gwasanaethau maethu a Gwarcheidiaeth Arbennig.
- Meddu ar ddealltwriaeth o asesiadau maethu, gwarcheidwaid sy'n berthnasau neu sefydlogrwydd.
- Profiad o waith aml-asiantaeth.
Y Rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Rhoi cymorth, goruchwyliaeth ac arweiniad i Rieni Maeth sy'n Berthnasau a Gwarcheidwaid Arbennig.
- Cwblhau ymweliadau statudol, adolygiadau a chynllunio cymorth.
- Cydweithio â phlant, teuluoedd ac asiantaethau partner.
- Hyrwyddo sefydlogrwydd a pharhad lleoliad i blant.
- Nodi cryfderau a chefnogi teuluoedd i oresgyn heriau.
- Cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaethau cymorth perthnasau a gwarcheidiaeth arbennig.
Gofynion Angenrheidiol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol.
- Bod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Profiad o gynnal asesiadau cymhleth o blant a theuluoedd a gwneud argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Y gallu i rannu barn broffesiynol gadarn a gwneud penderfyniadau.
Pam ymuno â Maethu Cymru RhCT?
Ym Maethu Cymru RhCT, mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Fodel Ymarfer RhCT, gyda Chyfathrebu Cydweithredol wrth ei wraidd. Rydyn ni'n credu bod y deilliannau gorau yn cael eu cyflawni drwy berthnasoedd cryf, sgyrsiau ystyrlon a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i ddeall beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Byddwch chi'n ymuno â charfan uchel ei barch a gwybodus sydd â phrofiad sylweddol o roi cymorth i rieni maeth sy'n berthnasau a Gwarcheidwaid Arbennig. Mae'r gwaith yn werth chweil, yn amrywiol ac yn aml yn gymhleth, gan ofyn am ymarferwyr sy'n gallu meithrin perthnasoedd cryf, llywio deinameg teuluol a chadw llais ac anghenion y plentyn wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi ymarfer myfyriol, datblygiad proffesiynol a chreu amgylchedd lle mae staff yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi i wneud eu gwaith gorau wrth wneud gwahaniaeth parhaol i blant a theuluoedd.
Rydyn ni'n cynnig:
- Carfan rheoli gefnogol a phrofiadol.
- Goruchwyliaeth gyson a chyfleoedd ymarfer myfyriol.
- Mynediad i'n Canolfan Dysgu a Datblygu bwrpasol.
- Trefniadau gweithio hyblyg.
- Cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa.
- Pecyn buddion i weithwyr hael, gan gynnwys:
- Pris gostyngol ar Aelodaeth Hamdden am Oes.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Hoffech chi wybod rhagor?
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch:
Rhiannon Shepherd
Rheolwr Cyflawniad ac Ymarfer y Garfan
Rhiannon.Shepherd@rctcbc.gov.uk
Helpwch ni i ddod o hyd i deuluoedd, cryfhau perthnasoedd a chreu dyfodol disglair i blant ledled Rhondda Cynon Taf.
Nodwch: Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi naill ai ar lefel Gweithiwr Cymdeithasol (Gradd 11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (Gradd 12), yn dibynnu ar gymwysterau, profiad a chymhwysedd.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.