Maethu Cymru RhCT - Carfan Asesu (37 awr yr wythnos)
UNED 2, PARC BUSNES HEN LOFA'R MARITIME, YSTAD DDIWYDIANNOL HEN LOFA'R MARITIME, PONTYPRIDD
Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Ydych chi'n angerddol am helpu plant i dyfu i fyny mewn teuluoedd diogel, cariadus a sefydlog? Ydych chi'n mwynhau gwaith asesu a gwneud argymhellion sydd â dylanwad parhaol ar fywydau plant?
Cysylltwch â ni os oes diddordeb gyda chi.
Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol i ymuno â'n Carfan Asesu prysur, cefnogol a phrofiadol ym Maethu Cymru RhCT.
Mae ein carfan arbenigol yn cynnal amrywiaeth o asesiadau maethu a sefydlogrwydd, gan gynnwys Asesiadau Ffurflen F, Asesiadau Person Cysylltiedig ac Asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig. Gan weithio ochr yn ochr â phlant, teuluoedd, gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol, byddwch chi'n cwblhau asesiadau o ansawdd uchel sy'n helpu plant i gyflawni sefydlogrwydd, diogelwch a deilliannau cadarnhaol.
Amdanoch Chi
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd:
- Yn meddu ar sgiliau asesu, dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau rhagorol.
- Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol wrth gynnal chwilfrydedd proffesiynol.
- Yn hyderus yn gweithio gyda sefyllfaoedd teuluol cymhleth a rhwydweithiau perthnasau.
- Wedi ymrwymo i ymarfer gwrth-ormesol, yn seiliedig ar gryfderau.
- Yn rhannu ein hangerdd dros gyflawni'r deilliannau gorau i blant a theuluoedd.
Yr hyn sydd ei angen arnoch chi:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol.
- Bod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gwybodaeth a phrofiad o faethu, gofal gan berthnasau a chynllunio sefydlogrwydd, gan gynnwys dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r arfer gorau sy'n sail i wasanaethau maethu a Gwarcheidiaeth Arbennig.
- Profiad o gynnal asesiadau cymhleth o blant a theuluoedd a gwneud argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Y gallu i roi barn broffesiynol gadarn a gwneud penderfyniadau.
- Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd:
- Profiad o gwblhau Asesiadau Ffurflen F, Asesiadau Person Cysylltiedig a/neu Asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig.
- Profiad o gyflwyno asesiadau i baneli maethu, llysoedd neu fforymau gwneud penderfyniadau eraill.
Pam Ymuno â Maethu Cymru RhCT?
Ym Maethu Cymru RhCT, mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Fodel Ymarfer RhCT, gyda Chyfathrebu Cydweithredol wrth ei wraidd. Rydyn ni'n credu bod y deilliannau gorau yn cael eu cyflawni drwy berthnasoedd cryf, sgyrsiau ystyrlon a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i ddeall beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Byddwch chi'n ymuno â charfan uchel ei pharch a gwybodus sy'n gwerthfawrogi ymarfer myfyriol, dysgu a chymorth. Dyma gyfle gwych i ddatblygu sgiliau asesu arbenigol wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant.
Rydyn ni'n cynnig:
- Carfan rheoli gefnogol a phrofiadol.
- Goruchwyliaeth reolaidd a chyfleoedd ymarfer myfyriol.
- Mynediad i'n Canolfan Ddysgu a Datblygu bwrpasol.
- Trefniadau gweithio hyblyg.
- Cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa.
- Pecyn buddion i weithwyr hael, gan gynnwys:
- Pris gostyngol ar Aelodaeth Hamdden am Oes.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Hoffech chi wybod rhagor?
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch:
Abigail Durrans
Rheolwr Cyflawniad ac Ymarfer y Garfan
Abigail.Durrans@rctcbc.gov.uk
Helpwch ni i ddod o hyd i deuluoedd, cryfhau perthnasoedd a chreu dyfodol disglair i blant ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.