Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol
G09 Cyflog £35,745 - £38,223 y flwyddyn
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
G10Cyflog £39,186 - £42,403 y flwyddyn
1 x Gweithiwr Cymdeithasol
Mae cyfle cyffrous i ymuno â thîm newydd Asesu a Chyswllt Troseddwyr, Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Rydym yn dymuno penodi gweithiwr cymdeithasol llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm bychan a chefnogol o Weithwyr Cymdeithasol ac Asesydd Gofal Cymdeithasol.
Mewn ymateb i atgyfeiriadau yn gofyn am gymorth Gofal Cymdeithasol ar gyfer preswylwyr CEM y Berwyn ac Eiddo a Gymeradwywyd Plas-y-Wern, rydym yn cynnal asesiadau ac ymyrraeth gwaith cymdeithasol i sefydlu a oes ganddynt anghenion gofal a chymorth. Mae'r swydd hon yn cynnwys sefydlu cymorth a llwybrau gofal priodol i breswylwyr gan gynnwys darparu gwybodaeth,cyngor a chymorth. Bydd angen gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill.
M ae'r tîm hefyd yn gweithio gydag unigolion sydd â Threfniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd sy'n cyfarfod meini prawf gwasanaethau arbenigol, a allai fod angen asesiad ac ymyrraeth gwaith cymdeithasol byr/hir dymor. Mae hyn yn aml yn golygu gweithio gydag amrywiaeth o ddinasyddion gan gynnwys y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, hunan-esgeuluso/celcio neu broblemau gyda defnyddio sylweddau.
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant. Bydd gan yr ymgeisydd cywir ar gyfer y swydd hon sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio fel rhan o dîm, profiad blaenorol o weithio gydag oedolion a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion y dinasyddion/trigolion rydym yn eu cefnogi.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, mae'n rhaid i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig.
Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig:
- Goruchwyliaeth a chymorth ardderchog gan reolwyr
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus
- Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio'n hyblyg a rhannu swydd
- Talebau gofal plant
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gostyngiadau a chynigion i staff
- Mynediad at Undeb Credyd
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
I gael ymholiadau pellach am y swydd cysylltwch a Myfid Healy, Bennaeth Gwasanaeth dros dro ar 07467338735, Myfid.healy@wrexham.gov.uk