Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol o fewn ein Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3). Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr blwyddyn olaf a fydd yn cymhwyso yn ddiweddarach eleni.Mae'r holl staff yn ein Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3) yn gymwys i dderbyn
atodiad y farchnad o £2,000. Mae hyn waeth beth fo hyd y profiad ôl-gymhwyso a chaiff ei adolygu ym mis Mai 2025. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu'n fisol ar sail pro rata.
(Gradd 11 - £40,221) Gweithiwr Cymdeithasol ar y Radd Gychwynnol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 (£43,421) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Y Carfanau Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Gorllewin a'r Dwyrain 1,2,3) Mae ein carfanau Ymyrraeth Ddwys yn cynnig y cyfle i weithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion, sy'n cynnwys plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rhai ym maes amddiffyn plant. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a dysgu. Rydyn ni wedi canolbwyntio ein hadnoddau i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddarparu asesiadau, cynlluniau a gwaith uniongyrchol o ansawdd uchel, i wella'r profiad i blant ac i sicrhau gwell deilliannau iddyn nhw.
Ein Cynnig i Chi Tra eich bod chi'n gweithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni hefyd eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn eich lles, a bod gyda chi gydbwysedd gwaith/bywyd da. Mae pob un o'n hymarferwyr yn cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol. Byddwch chi'n rheoli llwyth achosion diffiniedig wrth adeiladu a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd goruchwylio ardderchog.
Mae buddion eraill i staff yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwystâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
- Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Defnydd o'n Canolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygu Proffesiynol Parhaus.
- Rydyn ni hefyd yn datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr yng Ngwasanaethau i Blant RhCT, gyda’r ffocws ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol.
Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth HamddenAmOes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn RhCT.
www.rctcbc.gov.uk/childrensservicesjobs Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!
Gan ein bod ni’n awdurdod lleol mawr ac yn profi trosiant naturiol, rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr blwyddyn olaf Gweithiwr Cymdeithasol sy’n gymwys o hyn tan haf 2023.
Am ragor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol neu i drefnu trafodaeth anffurfiol defnyddiwch ein ffurflen ymholiad am swydd wag Gwasanaethau i Blant
https://customerportal.rctcbc.gov.uk/ChildrensServicesContactFormGwybodaeth Ychwanegol Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd rhaid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.