Am Y Gwasanaeth
Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) o £2800 pro-rata.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ymuno â'r Hyb AMHP newydd ar gyfer gwasanaethau dydd Caerdydd.
Mae gweithio yn yr Hyb AMHP yn cynnig gwaith amrywiol, dwys a diddorol i ymarferwyr, fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Mae'r Hyb AMHP yn ymateb i'r galw ar y diwrnod am Asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl ledled Caerdydd ac ar gyfer dinasyddion o bob oed.
Am Y Swydd
Mae hon yn swydd barhaol mewn swydd o 37 awr yr wythnos ar batrwm treigl o 2 ddiwrnod/3 diwrnod dros bythefnos. Mae'r tîm yn gweithio oriau swyddfa 08.30-17.00 o ddydd Llun i ddydd Iau, 08.30-16.30 dydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Byddwch yn gweithio mewn tîm AMHP ymroddedig gyda chydweithwyr AMHP a Rheolwr AMHP i ymateb i geisiadau am Asesiadau Deddf Iechyd Meddwl yng Nghaerdydd neu ar gyfer dinasyddion Caerdydd y tu allan i'r ardal. Mae'r Tîm yn ymateb i geisiadau am asesiadau Deddf Iechyd Meddwl ar draws pob oedran a maes gwasanaeth gan sicrhau derbyniad diogel i'r ysbyty lle bo angen. Mae'r tîm hefyd yn cynnal asesiadau ar gyfer unigolion a allai fod yn yr ysbyty ac angen triniaeth barhaus.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Bydd angen i chi fod â Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth a bod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r ddeddfwriaeth berthnasol a fyddai, ynghyd â'r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn cynnwys y Ddeddf Galluedd Meddyliol / Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a gweithdrefnau diogelu perthnasol
- Byddwch yn gweithio mewn modd cydweithredol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a gwasanaethau cysylltiedig (yr Heddlu, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er enghraifft) ar gyfer y canlyniad gorau i'r dinesydd sy'n cael ei asesu.
- Byddwch yn cynnal asesiadau risg deinamig i sicrhau diogelwch dinasyddion, teulu, cydweithwyr, gwasanaethau cysylltiedig a'r cyhoedd yn gyffredinol.
- Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl ar draws pob ystod oedran ac ystod o anghenion sy’n cael eu cyflwyno.
- Bydd gennych wybodaeth gyflawn a chynhwysfawr o'r fframwaith deddfwriaethol sy'n weithredol ond yn benodol cymhwyso'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Byddwch hefyd yn hyderus yn cynnal asesiadau risg deinamig a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig, a chynlluniau rheoli risg.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt cryfder gan edrych ar y canlyniadau lleiaf cyfyngol o asesiadau.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant sy’n benodol i AMHP, i gynorthwyo eich datblygiad proffesiynol ac i'r broses oruchwylio.
- Byddwch yn ymrwymedig i ddatblygiad gweithlu AMHP parhaus sy'n cynnig cyfleoedd i Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy dan hyfforddiant.
- Byddwch eisiau gweithio ym mhrifddinas Cymru mewn gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd gyda chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.
- Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith, a thelir lwfans car priodol am hyn.
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn barhaol, 37 awr yr wythnos.
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweliad rhithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Skelly, Rheolwr Tîm, Canolfan AMHP / Llif Cleifion sskelly@cardiff.gov.uk.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau