Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog amlddiwylliannol ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn nifer yr achosion sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth. Fel Gweithiwr yn y MASH, gallech fod yn rhan o drafodaethau achos gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol gan gynnwys yr heddlu, swyddogion iechyd a gwleidyddion, a gwneud penderfyniadau ar gam cynnar hanfodol.
Am Y Swydd
Mae hi'n amser cyffrous i ymuno â'r tîm yn sgîl cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a datblygu Hyb Diogelu Aml Asiantaeth, sy’n golygu bod y tîm wedi’i leoli mewn uned ar y cyd yng Ngorsaf yr Heddlu, Bae Caerdydd gydag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r agenda Diogelu.
Mewn swyddfa brysur, dim cyfrifoldeb achosion unigol, ond â llwyth gwaith sy’n newid yn gyson, mae’r tîm Gwasanaethau Plant (MASH) yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 â phrofiad addas.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae’r gwaith yn cynnal cynnwys asesiadau risg amserol o’r cysylltiadau / atgyfeiriadau i’r Hyb Diogelu Aml Asiantaeth, a nodi’n gynnar y plant hynny sydd mewn perygl gan gynnwys cynnal trafodaethau amlasiantaeth ar strategaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ac ar gamau diogelu.
Mae’n hanfodol eich bod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau gan y Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau