Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd a Lles Flying Start - Tymor Dros Dro / Tymor Penodedig Mawrth 2028
Cyflogwr
Vale of Glamorgan County Council / Cyngor Bro Morgannwg
Lleoliad
-
Bro Morgannwg
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £37,280 - £46,142 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Amdanom ni
Mae Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rôl gyffrous yn ei Raglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen atal ac ymyrryd yn gynnar a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael mewn ardaloedd wedi'u targedu i gefnogi teuluoedd a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant 0–3 oed.
Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd trwy ddarparu:
- Ymwelwyr iechyd
- Cymorth rhianta
- Cymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu
- Gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Cymorth Rhieni Dechrau'n Deg. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd trwy ddarparu technegau a strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:
- Gweithio'n uniongyrchol gyda rhieni trwy sesiynau un i un, gweithgareddau grŵp, ac ymgysylltu â'r gymuned
- Cefnogi teuluoedd i oresgyn heriau a chael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt
- Cyfrannu at ddull cydweithredol, amlasiantaethol o ymyrraeth gynnar
Os ydych chi'n angerddol am wella bywydau plant a theuluoedd ac eisiau bod yn rhan o dîm cefnogol, blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych
Uchelgeisiol – Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored – Yn agored i syniadau gwahanol ac yn atebol am y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd – Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch – Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 8, PCG 26 – 30 £37,280 - £40,777 / Gradd 9, PCG 31 – 35 £41,771 - £46,142
Bydd y cyflog wrth benodi yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein