Hysbyseb Swydd - Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl (Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol) Gwasanaeth: Oedolion - Tîm Iechyd Meddwl Lleoliad: Canolfan Gyswllt, Penrhyndeudraeth Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd: Ydych chi...
- Am gyfrannu i gyflogwr sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da
Os mai 'ydw' yw eich ateb i'r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a'u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â'u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â'u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a'r Swydd Ddisgrifiad a'r Manylion Person (ynghlwm).
Cyflog :PS1 / PS2 (yn ddibynol ar brofiad)
L2 (Gweithiwr Cymdeithasol) - PS1 (pt 29-31), £39,862 - £41,771 L3 (Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol) - PS2 (pt 31-33), £41,771 - £44,075 Galluogir i aelod staff fynd heibio trothwyon cyflog yn unol a phrofiad a pherfformiad.
Gweler y Pecyn Gwybodaeth - Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a'r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a'r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni: Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â
Jenine Cassim ar 01766 772599 neu drwy e-bost: JenineCassim@gwynedd.llyw.cymru Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 19/03/2026 Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person NODWEDDION PERSONOLHANFODOL• Gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dim.
• Yn berson dibynadwy a hyblyg.
• Brwdfrydig, hunan ddibynnol a phendant.
• Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
• Cyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
• Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
DYMUNOLGwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOLHANFODOLCQSW CSS Dip Sw
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru
DYMUNOL-PROFIAD PERTHNASOLHANFODOL -
DYMUNOL• Profiad o waith Gofal Cymunedol gyda oedolion a'u gofalwyr.
• Profiad o waith aml-ddisgyblaeth
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOLHANFODOL• Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau.
• Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a nodi cynlluniau gofal.
DYMUNOLGallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion gwasanaeth.
ANGHENION IEITHYDDOLHANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel UwchGallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel UwchGallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel UwchCyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y Swydd.• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio fel aelod o dîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl . Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb am asesu, trefnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd a phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr. Yn ogystal a hyn disgwylir i ddeilydd y swydd gysylltu a gweithwyr cymunedol eraill o'r sector statudol a'r sector wirfoddol pan fo'n briodol er mwyn cyd drefnu'r gwasanaeth a gyflawnir. Bydd hefyd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fel Gweithwir Cydnabyddedig (AMHP) neu gallu a'r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer• Dim penodol ond disgwylir i'r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.
Prif Ddyletswyddau.• I weithio o fewn fframwaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
• Bod yn aelod gweithredol o'r tim derbyn o fewn y gwasanaeth ac I ymgymryd a gwaith cyfeirio ac asesu anghenion defnyddwyr gwasanaeth
• Asesu anghenion defnyddwyr a threfnu a darparu gwasanaethau.
• Cloriannu, paratoi a gweithredu cynlluniau gofal mewn partneriaeth gyda defnyddwyr y gwasanaeth a phobl berthnasol eraill.
• Adolygu'r cynlluniau gofal yn reolaidd.
• Gweithio ar y cyd gyda'g unigolion ac asiantaethau eraill pan fo angen.
• Rhoi gwybodaeth/cyfarwyddyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth a' I ffurfio perthynas agos efo'r sector Gofal Sylfaenol.
• Os yw deilydd y swydd yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 bu'n ofynnol iddo/iddi wneud gwaith statudol dan y Ddeddf.
• Os nad yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd disgwyl iddo/iddi gwblhau cwrs addas er mwyn derbyn cydnabyddiaeth o fewn dwy flynedd o gychwyn y swydd.
• Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newydd ym maes iechyd meddwl.
• Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth gyda'r rheolwr tim.
• Mynychu cyfarfodydd aml ddisgyblaethol, cynadlleddau achos, cysylltu ag asiantaethau cymunedol a chynrychioli'r tim ar bwyllgorau/grwpiau perthnasol.
• Cydymffurfio a'r holl bolisiau a threfn y Cyngor a'r Adran.
•r holl bolisiau a threfn y Tim.
• Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o 'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a'r swydd ond yn unig fel mynegiant o'r prif ddyletswyddau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
CYFRIFOLDEBAU ERAILL• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb