Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl

Dyddiad cau 09/06/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£37,280 - £44,075 a year (PS1+2) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

..

Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl

(Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol)

Gwasanaeth: Oedolion - Tîm Iechyd Meddwl

Lleoliad: Canolfan Gyswllt, Penrhyndeudraeth

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.

Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

Gwybodaeth am y swydd:

Ydych chi...

                

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim.
• Yn berson dibynadwy a hyblyg.
• Brwdfrydig, hunan ddibynnol a phendant.
• Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol

                

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio fel aelod o dîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl . Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb am asesu, trefnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd a phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr. Yn ogystal a hyn disgwylir i ddeilydd y swydd gysylltu a gweithwyr cymunedol eraill o’r sector statudol a’r sector wirfoddol pan fo’n briodol er mwyn cyd drefnu’r gwasanaeth a gyflawnir. Bydd hefyd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fel Gweithwir Cydnabyddedig (AMHP) neu gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Dim penodol ond disgwylir i’r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.

Prif Ddyletswyddau.

• I weithio o fewn fframwaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
• Bod yn aelod gweithredol o’r tim derbyn o fewn y gwasanaeth ac I ymgymryd a gwaith cyfeirio ac asesu anghenion defnyddwyr gwasanaeth
• Asesu anghenion defnyddwyr a threfnu a darparu gwasanaethau.
• Cloriannu, paratoi a gweithredu cynlluniau gofal mewn partneriaeth gyda defnyddwyr y gwasanaeth a phobl berthnasol eraill.
• Adolygu’r cynlluniau gofal yn reolaidd.
• Gweithio ar y cyd gyda’g unigolion ac asiantaethau eraill pan fo angen.
• Rhoi gwybodaeth/cyfarwyddyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr.
• I ffurfio perthynas agos efo’r sector Gofal Sylfaenol.
• Os yw deilydd y swydd yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 bu’n ofynnol iddo/iddi wneud gwaith statudol dan y Ddeddf.
• Os nad yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd disgwyl iddo/iddi gwblhau cwrs addas er mwyn derbyn cydnabyddiaeth o fewn dwy flynedd o gychwyn y swydd.
• Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newydd ym maes iechyd meddwl.
• Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth gyda’r rheolwr tim.
• Mynychu cyfarfodydd aml ddisgyblaethol, cynadlleddau achos, cysylltu ag asiantaethau cymunedol a chynrychioli’r tim ar bwyllgorau/grwpiau perthnasol.
• Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Cyngor a’r Adran.
• Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Tim.
• Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o ‘r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a’r swydd ond yn unig fel mynegiant o’r prif ddyletswyddau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

CYFRIFOLDEBAU ERAILL

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.