Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl

Dyddiad cau 04/08/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£37,280 - £44,075 a year (-) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol

(Glas-weithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol)

Gwasanaeth: Tîm Iechyd Meddwl De Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.


                

Nodweddion personol

Hanfodol

Gallu i ffurfio perthynas weithio dda gydag ystod eang o wahanol bobl a’r gallu i weithio fel aelod o dim. Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiyno

Dymunol

Cyflwyniad hyderus.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol neu ar fin cymhwyso:

"Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhywun sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.  Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr."

Dymunol

Cydnybyddiedig dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Os nad yn gydnabyddedig o

dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fe fydd angen cwblhau yr hyfforddiant addas o

fewn dwy flynedd o gychwyn y swydd.

Profiad perthnasol

Hanfodol

-

Dymunol

Profiad o weithio gydag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl

Profiad o weithio yn agos gyda’r sector statudol ac anstatudol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Sgiliau asesu, rheolaeth gofal a chyfathrebu da.

Dymunol

Sgiliau technoleg gwybodaeth.

Gwybodaeth am y maes iechyd meddwl.

Gwybodaeth am y rhan mae cyllid yn chwarae mewn darparu gwasanaeth. Gwybodaeth am ddatblygiadau yn y maes iechyd meddwl.

Gwybodaeth am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleisant,2014,

Y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a’r Ddeddf Iechyd Meddwl, 1983.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

                

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Gweithio fel aelod o dîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl . Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb am asesu, trefnu a darparu gwasanaethau i bobl sydd a phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr. Yn ogystal a hyn disgwylir i ddeilydd y swydd gysylltu a gweithwyr cymunedol eraill o’r sector statudol a’r sector wirfoddol pan fo’n briodol er mwyn cyd drefnu’r gwasanaeth a gyflawnir. Bydd hefyd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl fel Gweithwir Cydnabyddedig (AMHP) neu gallu a’r sgiliau i gwblhau cwrs AMHP o fewn dwy flynedd i gychwyn y swydd.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Dim penodol ond disgwylir i’r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.

Prif ddyletswyddau

I weithio o fewn fframwaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bod yn aelod gweithredol o’r tim derbyn o fewn y gwasanaeth ac I ymgymryd a gwaith cyfeirio ac asesu anghenion defnyddwyr gwasanaeth

Asesu anghenion defnyddwyr a threfnu a darparu gwasanaethau.

Cloriannu, paratoi a gweithredu cynlluniau gofal mewn partneriaeth gyda defnyddwyr y gwasanaeth a phobl berthnasol eraill.

Adolygu’r cynlluniau gofal yn reolaidd.

Gweithio ar y cyd gyda’g unigolion ac asiantaethau eraill pan fo angen.

Rhoi gwybodaeth/cyfarwyddyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr.

I ffurfio perthynas agos efo’r sector Gofal Sylfaenol.

Os yw deilydd y swydd yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 bu’n ofynnol iddo/iddi wneud gwaith statudol dan y Ddeddf.

Os nad yn gydnabyddedig dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd disgwyl iddo/iddi gwblhau cwrs addas er mwyn derbyn cydnabyddiaeth o fewn dwy flynedd o gychwyn y swydd.

Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newydd ym maes iechyd meddwl.

Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth gyda’r rheolwr tim.

Mynychu cyfarfodydd aml ddisgyblaethol, cynadlleddau achos, cysylltu ag asiantaethau cymunedol a chynrychioli’r tim ar bwyllgorau/grwpiau perthnasol.

Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Cyngor a’r Adran.

Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Tim.

Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o ‘r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a’r swydd ond yn unig fel mynegiant o’r prif ddyletswyddau.

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

-

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.