Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Cymdeithasol (Iechyd Meddwl)

Dyddiad cau 11/10/2026

Cyflogwr

Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin

Lleoliad

  • Sir Gaerfyrddin
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£40,444 up to £48,738* y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithiwr Cymdeithasol Dros Dro - Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (Caerfyrddin)

Swydd Cyfnod Penodol tan fis Gorffennaf 2027

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant a brwdfrydig ymuno â Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol sefydledig Sir Gar ar sail dros dro tan fis Gorffennaf 2027.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i fod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol cefnogol sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl o safon uchel ar draws ardal Caerfyrddin. Mae'r swydd ar gael i ddarparu cyflenwi absenoldeb mamolaeth ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr i ymarferwyr profiadol ac i'r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa gwaith cymdeithasol.

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig (Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW neu CQSW) sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar dystysgrif DBS fanwl sy'n rhan o'r Gwasanaeth Diweddaru, neu fod yn barod i'w chael. Byddai profiad o weithio gydag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl ac amgylchiadau cymhleth yn fantais.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ennill profiad arbenigol ym maes gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion wrth ddatblygu eich sgiliau o fewn tîm cefnogol a phrofiadol.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan gydweithwyr o fewn yr Awdurdod Lleol a allai ddymuno ymgymryd â'r rôl fel cyfle secondiad. Anogir Gweithwyr Cymdeithasol sydd â diddordeb mewn secondiad (yn amodol ar gytundeb eu rheolwr llinell) i wneud cais.

Byddai meddu ar gymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Cymeradwy ym maes Iechyd Meddwl (AMHP) yn ddymunol, ac mae tâl ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n ymgymryd â dyletswyddau AMHP.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Rheoli llwyth achosion o unigolion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus.
  • Gweithredu fel Cydlynydd Gofal o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
  • Cynnal asesiadau ac ymyriadau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Gweithio'n gydweithredol ag unigolion, teuluoedd, gofalwyr ac asiantaethau partner i hyrwyddo adferiad ac annibyniaeth.
  • Darparu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'u harwain gan egwyddorion cydgynhyrchu ac sy'n canolbwyntio ar ddeall "beth sy'n bwysig" i'r unigolyn.

Bydd gennych sgiliau cryf ym maes asesu, cynllunio gofal ac adolygu, ynghyd ag ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau.

Os ydych yn angerddol am gefnogi pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl ac yn awyddus i ymuno â thîm ymroddedig a phrofiadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Carys Lewis-Thomas
Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
E-bost: clthomas@sirgar.gov.uk

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.