Byddwch yn derbyn £3000 o gydnabyddiaeth y flwyddyn, mewn rhandaliadau misol, am y gwaith AMHP a gyflawnwch
Am y rôl:
Mae hon yn rôl Gweithiwr Cymdeithasol Graddfa 11 o fewn Gwasanaethau Oedolion, yn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a gofalwyr ledled Powys. Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys asesiadau, diogelu, rheoli risg, cynllunio gofal, gwaith Deddf Galluedd
Meddyliol, gweithio mewn partneriaeth a chynnal llwythi achosion. Mae angen cymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig, cofrestriad, profiad iechyd meddwl perthnasol a statws Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) neu barodrwydd i hyfforddi. Mae
AMHPs yn derbyn £3,000 ychwanegol bob blwyddyn.
Amdanoch chi:
Yn angerddol am gefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl, hyrwyddo annibyniaeth, lles a chynhwysiant cymdeithasol.
Yn dosturiol ac yn canolbwyntio ar y person, sy'n gallu gweithio'n sensitif gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr.
Sgiliau cyfathrebu a phartneriaeth cryf, gan weithio ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau eraill. Gallu gwneud penderfyniadau yn hyderus, gallu asesu anghenion cymhleth, rheoli risg ac ymateb yn effeithiol i argyfwng neu wrthdaro.
Trefnus ac atebol yn broffesiynol, gyda'r gallu i flaenoriaethu a rheoli llwyth achosion heriol.
Ymrwymedig i ddysgu a datblygiad proffesiynol, gan gynnwys ymarfer AMHP, diogelu, gallu meddyliol ac ymarfer myfyriol.
Eich dyletswyddau:
Asesu anghenion gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl unigolion, gan nodi cryfderau, risgiau a chymorth priodol.
Datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y person sy'n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a lles.
Rheoli llwyth achosion amrywiol, gan gynnwys pobl ag anghenion ac amgylchiadau iechyd meddwl cymhleth.
Ymgymryd â chyfrifoldebau diogelu, rheoli risg a Deddf Galluedd Meddyliol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.
Gweithio ar y cyd ag unigolion, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau partner i gydlynu cymorth effeithiol.
Cyfrannu at waith iechyd meddwl statudol ac ymarfer proffesiynol, gan gynnwys dyletswyddau AMHP lle bo'n gymwys neu yn dilyn hyfforddiant priodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Rebecca Horton, Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl (De), rebecca.horton@powys.gov.uk
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon.