Rhif swydd. SSAC0217.1 - Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl Oedolion
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Casnewydd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig llawn amser i weithio o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig sydd wedi'i leoli yn Gold Tops, ar sail tymor penodol.
Gan weithio'n bennaf gyda phobl o dan 65 oed, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr fel rhan o dîm amlddisgyblaethol lle mae rôl y Gweithiwr Cymdeithasol yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn Gweithwyr Cymdeithasol sydd â phrofiad o gefnogi unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus, yn ogystal â phobl sydd ag anghenion camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd.
Mae cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus drwy oruchwyliaeth reolaidd a hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol.
Yn ddelfrydol, byddwch yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy profiadol er nad yw hynny’n hanfodol, a rhaid i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig.
Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac mae’n destun Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I drafod y rôl ymhellach, cysylltwch â Rheolwr Tîm Integredig Laurie Booker ar 01633 786000.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd