Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Cymdeithasol (L1-L3)

Dyddiad cau 30/10/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£38,510 - £45,529 a year (-) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol

Gwasanaeth: Plant

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.

                

Nodweddion personol

Hanfodol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) –

Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim.

Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.

Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.

Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol

Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr

Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.

Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu

Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd.

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) –

Gweler uchod

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Gweler uchod

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru 

Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol  

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1);

Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol) 

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Gweler uchod (L1) + (L2)

Dymunol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Cymhwyster Addysgwr Ymarfer  

Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP 

Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)  

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Gweler uchod (L2)

Profiad perthnasol

Hanfodol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Profiad o weithio mewn tîm 

Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd  

Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal  

Profiad o weithio efo asiantaethau eraill  

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1);

Profiad o ddelio efo achosion diogelu  

Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion  a’u gofalwyr. 

Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol 

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2);

Profiad o ddelio efo achosion cymhleth  

Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)

Dymunol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Profiad o ddelio efo achosion diogelu  

Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr. 

Profiad o ddelio efo achosion cymhleth  

Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol 

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)

Profiad o ddelio efo achosion cymhleth  

Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol 

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas. 

Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal. 

Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da. 

Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth 

Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol 

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1):

Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2);

Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)  

Dymunol

Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -

Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .

Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -

Sgiliau gwaith llys  

Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

                

Pwrpas y swydd

•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

•Asesu anghenion plant anabl a phlant sy’n wael a’u teuluoedd / gofalwyr yn unol â’r gofynion statudol perthnasol.

•Gweithio fel aelod o dîm aml-asiantaethol sirol.

•Cario allan dyletswyddau ar y cyd megis sefydlu cynlluniau gofal, eu monitro a’u adolygu i ateb yr anghenion.

•Cynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer plant anabl a phlant sy’n wael a’u teuluoedd o fewn y Sir.

•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.

• Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd

Prif ddyletswyddau

Lefel 1 – Glas-weithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)

•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig

•Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.

•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.

•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.

•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.

•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.

•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.

•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.

•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.

•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.

•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n

bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.

•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

Lefel 2 – Gweithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)

•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig

•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.

•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio

•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.

•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol

•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.

•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth.

•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.

•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.

•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.

•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.

•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n

bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso

gofal a chymorth.

•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol.

•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Lefel 3 – Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (Dyletswyddau Cyffredinol)

•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig

•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad trwy fentora.

•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.

•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.

•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.

•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.

•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.

•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.

•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.

•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.

•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.

•Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl fentora.

•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.

•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.

•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.

•Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.

Dyletswyddau Lleol

•Bod yn weithiwr cyswllt neu/ac (g)weithiwr allweddol i nifer o blant anabl a phlant sy’n wael yn dilyn trefn cyfeirio y gwasanaeth.

•Bod yn aelod o dîm gwaith cymdeithasol o fewn gwasanaeth aml-asiantaethol y Gwasanaethau Arbenigol Plant.

•Trefnu a darparu pecynnau gofal i gwrdd a’r anghenion a aseswyd mewn ymgynghoriad gyda’r plant, eu teuluoedd, a chydweithwyr.

•Cyflawni asesiadau risg perthnasol i’r uchod.

•Monitro ac adolygu cynlluniau gofal a ddarparwyd trwy drefn aml-asiantaethol.

•Bod yn rhan o drefn dyletswydd y tîm gwaith cymdeithasol

•Hybu cysylltiadau gyda darparwyr gwasanaeth a Mudiadau Gwirfoddol perthnasol.

•Cydweithio gyda grwpiau / fforymau rhieni

•Cydweithio gyda’r Tîm Amddiffyn Plant a’r Tîm Plant mewn Gofal mewn perthynas ag achosion amddiffyn plant a phlant sy’n derbyn llety.

•Cydweithio gyda thimau oedolion perthnasol o ran cynllunio ar gyfer oed trosglwyddo.

•Darparu gwybodaeth a chyngor i gydweithwyr fel bo’ n briodol.

Dyletswyddau Eraill

•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.

•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.