Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig,cliciwch yma.Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda Lles Meddyliol? Ydych chi eisiau'r cyfle i helpu pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl? Hoffech chi helpu pobl i reoli eu bywydau bob dydd yn well? Ydych chi'n berson egnïol ac yn awyddus i gael gyrfa yn helpu pobl ag iechyd meddwl? Os felly, efallai mai dyma'r cyfle i chi?
Rydym yn chwilio am unigolion a fyddai'n asesu, yn cefnogi ac yn ymgysylltu â phobl â phroblemau iechyd meddwl i ddod yn annibynnol. Byddwch yn rhan o dîm sy'n gwneud i hyn ddigwydd ac yn cael eich cefnogi a'ch goruchwylio'n agos yn eich gwaith. Mae'r gwaith yn cael ei wneud ledled Ceredigion ac mae'n gyfle i ymgymryd â rôl ymarferol iawn o fewn ein tîm cyfeillgar a chefnogol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso) Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gymhwyso) Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Simon Thomas ar
simon.thomas@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy