Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Lles Meddyliol Conwy fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae’r Tîm Lles Meddyliol yn Dîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda sefydliadau partner a gwasanaethau eraill i ddarparu cymorth ac ymyriadau arbenigol i bobl sy’n profi anghenion cymhleth o ganlyniad i anawsterau seicogymdeithasol parhaus.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol o fewn y tîm, byddwch yn cynnal asesiadau ac yn darparu ymyriadau therapiwtig, yn ogystal â chynnig ymgynghoriad, arweiniad a chyngor i weithwyr proffesiynol a staff rheng flaen eraill. Byddwch hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gydag unigolion a’u teuluoedd, gan gynnig cyngor, cymorth a chyfeirio at wasanaethau priodol, yn ogystal â hwyluso atgyfeiriadau ymlaen lle bo angen.
Bydd y rôl yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi unigolion y mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb am eu gofal ôl-driniaeth o dan Adran 117.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol sydd â dealltwriaeth seicolegol, sy’n dosturiol ac yn anfeirniadol, ac sy’n awyddus i atgyfnerthu a datblygu ei sgiliau proffesiynol ymhellach. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich profiad ym meysydd asesu, ymgysylltu, dulliau therapiwtig a chydweithio proffesiynol, gan weithio fel rhan o amgylchedd amlddisgyblaethol cefnogol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael mynediad at hyfforddiant a chymorth goruchwylio rhagorol, a bydd hefyd yn cael ei annog i weithio’n greadigol gyda lefel uchel o ymreolaeth broffesiynol.
Oherwydd natur y rôl, mae’n hanfodol eich bod yn gallu teithio’n rheolaidd ledled y Sir, gan gynnwys i leoliadau anghysbell ac oddi yno, weithiau ar fyr rybudd.
Bydd angen gwiriad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y rôl hon.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Danielle Jefferson Rheolwr Adain 01492 577217 Danielle.jefferson1@conwy.gov.uk
Claire Louise-Davies Rheolwr Tîm 01492 575357 claire.louise.davies@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.