Am Y Gwasanaeth
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol angerddol a medrus sy'n chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc?
Mae Gwasanaeth Maethu Caerdydd yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm cefnogol a phrofiadol. Mae hon yn rôl werth chweil sy'n cyfuno recriwtio, asesu, cefnogi a goruchwylio gofalwyr maeth, maethu gan berthynas, gan helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gofal diogel, sefydlog a meithringar y maent yn ei haeddu.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar y daith weithredu sy'n defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu dull o weithio gyda phlant a'u teuluoedd.
Y buddion a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd
Am Y Swydd
Gan weithio fel rhan o Wasanaeth Maethu Caerdydd, byddech:
- Yn recriwtio, asesu, cefnogi a goruchwylio gofalwyr maeth prif ffrwd, gofalwyr personau cysylltiedig, gofalwyr maeth sy’n berthnasau.
- Adeiladu perthnasoedd cryf, effeithiol a seiliedig ar ymddiriedaeth gyda gofalwyr maeth a'u teuluoedd.
- Ymgymryd ag asesiadau maethu, perthnasau a phobl gysylltiedig cynhwysfawr.
- Casglu gwybodaeth gan asiantaethau partner a gweithwyr proffesiynol i lywio asesiadau cadarn a phenderfyniadau diogelu.
- Cynhyrchu adroddiadau ac argymhellion o ansawdd uchel ar gyfer paneli maethu, achosion llys a fforymau gwneud penderfyniadau eraill.
- Cyflwyno adroddiadau ac argymhellion i'r Panel Maethu.
- Datblygu cynlluniau cymorth wedi'u teilwra sy'n nodi cryfderau, mynd i'r afael â gwendidau a sicrhau bod gofalwyr yn derbyn gwasanaethau ac ymyriadau priodol.
- Cefnogi gofalwyr i ddiwallu anghenion emosiynol, datblygiadol ac ymarferol plant yn eu gofal.
- Gweithio ar y cyd â gweithwyr cymdeithasol plant, addysg, iechyd ac asiantaethau partner eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant.
- Cyfrannu at gynllunio gofal, cynllunio parhaol a threfniadau diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gyfwerth) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a rhaid i chi fod yn gofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn meddu ar sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno.
- Bydd gennych brofiad gwaith o weithio gyda gofalwyr maeth a/neu Warcheidwaid Arbennig a gwybodaeth amlwg yn y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol.
- Yn gallu cydbwyso cefnogaeth a her wrth adeiladu partneriaethau effeithiol gyda gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Yn hyderus yn cyflwyno gwybodaeth gymhleth i baneli ac o fewn lleoliadau cyfreithiol.
- Yn gweithio'n greadigol ac yn hyblyg i oresgyn heriau a chefnogi newid cadarnhaol.
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â recruitme@cardiff.gov.uk.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau