GWEITHIWR CYMDEITHASOL- NIWROAMRYWIAETH
Cyflogwr
Cardiff Council/Cyngor Caerdydd
Lleoliad
-
Caerdydd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £Gradd 7 - £36,363 - £40,777 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Am Y Gwasanaeth
Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Mae'r tîm yn rhan o Wasanaethau Oedolion, y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl. Rydym yn cynnal asesiadau gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy'n briodol i ddiwallu'r canlyniadau a gytunir gan yr unigolion. Mae’r Tîm hefyd yn cynnal asesiadau pontio ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth ag anghenion gofal a chymorth sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Mae’r tîm yn rhan bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021). Mae Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Niwrowahaniaeth.
Mae’r Tîm yn cael ei reoli gan Reolwr y Tîm sydd â chyfrifoldeb dros gamddefnyddio sylweddau (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd), digartrefedd a phontio ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae’r Tîm wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial.
- Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
- Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
- Cyfle i ddatblygu eich defnydd o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a mentora.
- Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
- Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol i'w weithwyr.
Am Y Swydd
Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw’n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw’n allweddol i'r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau yng Nghaerdydd.
Bydd y rôl wedi'i lleoli gyda Thîm Niwroamrywiaeth a Phontio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) ac wedi'i lleoli ochr yn ochr â Thîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd a Thîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas (Digartrefedd). Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau. Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ôl y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae'r Tîm Niwroamrywiaeth yn wasanaeth sydd wedi’i sefydlu’n ddiweddar ac sy’n datblygu’n barhaus a bydd disgwyl i chi roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n niwrowahanol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Profiad o weithio gydag oedolion a chynnal asesiadau gyda'r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.
- Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.
- Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Hyder a gwybodaeth dda o fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein