Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

GWEITHIWR CYMDEITHASOL - NIWROAMRYWIAETH

Dyddiad cau 14/09/2026

Cyflogwr

Cardiff Council/Cyngor Caerdydd

Lleoliad

  • Caerdydd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£Gradd 8 - £42,123 - £46,579 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Am Y Gwasanaeth

Y Gyfarwyddiaeth Oedolion, Cymunedau a Thai yng Nghyngor Caerdydd.

Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod Gweithwyr Cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd.  Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. 

Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Mae'r tîm yn rhan o Wasanaethau Oedolion, y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl. Rydym yn cynnal asesiadau gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy'n briodol i ddiwallu'r canlyniadau a gytunir gan yr unigolion.  Mae’r Tîm hefyd yn cynnal asesiadau pontio ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth ag anghenion gofal a chymorth sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.  Mae’r tîm yn rhan bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021).  Mae Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Niwrowahaniaeth.

Mae’r Tîm yn cael ei reoli gan Reolwr y Tîm sydd â chyfrifoldeb dros gamddefnyddio sylweddau (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd), digartrefedd a phontio ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.

Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn.   Mae’r Tîm wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial.

 

Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi:

  1. Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
  2. Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
  3. Cyfle i ddatblygu eich defnydd o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a mentora.
  4. Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
  5. Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
  6. Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
  7. Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol i'w weithwyr. 

Am Y Swydd

Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw’n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw’n allweddol i'r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau yng Nghaerdydd.

Bydd y rôl wedi'i lleoli gyda Thîm Niwroamrywiaeth a Phontio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) ac wedi'i lleoli ochr yn ochr â Thîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd a Thîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas (Digartrefedd).  Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth.  Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur. 

Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau.   Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ôl y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.

Mae'r Tîm Niwroamrywiaeth yn wasanaeth sydd wedi’i sefydlu’n ddiweddar ac sy’n datblygu’n barhaus a bydd disgwyl i chi roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.  Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n niwrowahanol.  Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

  1. Profiad o weithio gydag oedolion a chynnal asesiadau gyda'r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.
  2. Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.
  3. Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  4. Hyder a gwybodaeth dda o fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
  5. Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
     
  6. Ymrwymiad i weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith cymdeithasol arbenigol ac i weithio'n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau'r trydydd sector.

 

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hon yn swydd barhaol am 37 awr yr wythnos.

Mae angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer trefniadau rhannu swydd.


Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.