Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 724
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Iechyd Meddwl - Tîm y De, Llanelli
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Social Worker
Cyflog: £36,648 up to £44,428*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £19.00 up to £23.03*
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Cyfle cyffrous i weithiwr cymdeithasol ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan arwain a chefnogi ein Llwybr Pontio i bobl ifanc.
Byddwch yn gweithio'n bennaf gyda phobl ifanc o 16 oed sy'n niwroamrywiol a neu'n cyflwyno materion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl cymhleth. Byddwch yn eu cefnogi wrth iddynt drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau a phartneriaid eraill i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol. Yn adrodd i'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol byddwch yn mynychu cyfarfodydd pontio, yn cynnal asesiadau ac yn cydlynu gofal a chymorth. Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio gyda gwasanaethau plant, bydd angen i chi hefyd sefydlu perthnasoedd a manteisio ar arbenigedd a gwybodaeth gwasanaethau arbenigol megis Iechyd Meddwl, Niwrowahaniaethu, CAMHS Arbenigol, Defnyddio Sylweddau, Addysg a Thai.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. Byddai'r rôl hon yn addas i weithiwr cymdeithasol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc ac sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a chefnogi llwybrau pontio.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael y dechrau gorau gyda chymorth pwrpasol i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth aruthrol sydd gan brofiad a'r gwaith cymhleth y mae Gweithwyr Cymdeithasol profiadol yn ei wneud. Byddwch yn cael cyfle i wneud cynnydd o ran ymarfer gwaith cymdeithasol (y tu allan i lwybr rheoli) drwy ein 'Fframwaith Cynnydd ar gyfer Ymarferydd Profiadol'*. Mae cynnydd llwyddiannus yn cynnig yr ystod uwch o wobrau cyflog **.
Gallwn gynnig i chi:
- ymsefydlu cynhwysfawr
- goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd
- gweithio ystwyth/hybrid
- gweithio hyblyg
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol ar ddechrau'r swydd, yn cynyddu i 35 ynghyd ag 8 gŵyl y banc
- cynllun pensiwn llywodraeth leol
- buddiannau gweithwyr
- cyfle i wneud cynnydd a rhaglen datblygiad proffesiynol gefnogol.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu teithio ledled y sir.
* Mae dilyniant y tu hwnt i bwynt cyflog £40,221, hyd at uchafswm o £44,428 yn amodol ar asesiad panel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol' yr Awdurdod**
** Mae Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen atgyfnerthu, ac sy'n ymgymryd ag ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth yn rheolaidd. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Corinne Everett-Guy, Uwch Reolwr Gwaith Cymdeithasol - CEGuy@carmarthenshire.gov.uk, ffôn 07899918458
Disgrifiad Swydd: 034229.pdf - 215KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/09/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.