Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol Sesiynol

Dyddiad cau 19/10/2026

Cyflogwr

Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Lleoliad

  • Wrecsam
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£22.37 - £24.14 / per hour yr awr
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

  • Ynglŷn â'r Rôl

  • Oriau Gwaith Sesiynol

    Cyflog £21.65 - £23.37

     Tîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl mewn argyfwng sydd angen ymyrraeth a chefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae Gweithwyr Iechyd Meddwl Sesiynol Cymeradwy gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol Sesiynol Profiadol yn Nhîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnal ac yn cydlynu’r ymyriadau brys gan sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer plant ac oedolion nes bod ein cydweithwyr dydd yn cymryd yr awenau.

    Rydym ni’n gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu, Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a meddygon teulu. Rydym ni hefyd yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae’r Gweithwyr Iechyd Meddwl Sesiynol Cymeradwy a’r Gweithwyr Cymdeithasol y tîm yn ymdrin â phob mater a defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys plant ac oedolion mewn perygl, lleoliadau gofal maeth wedi chwalu, oedolion diamddiffyn yn y ddalfa, pobl sy'n profi argyfwng yn eu hiechyd meddwl a phobl hŷn sydd angen gwasanaethau i'w cadw'n iach ac yn ddiogel.

    Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol profiadol i ymuno â thîm profiadol o staff y Tîm Dyletswydd Brys (EDT) sy'n dod o gefndiroedd amrywiol. Mae'n ddymunol iawn eich bod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol ym maes amddiffyn plant. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn llawn dychymyg ac yn greadigol yn eich dull o ddatrys problemau. Yn gyfnewid am hynny, byddwch yn derbyn cefnogaeth gadarn gan gydweithwyr a rheolwyr o fewn y Gwasanaeth.

    Mae Tim Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, felly bydd cyfle i weithio gyda gwahanol garfannau o’r boblogaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae'r patrwm sifft yn cynnig hyblygrwydd - byddwch yn un o bedwar aelod staff ar ddyletswydd yn ystod ein hamseroedd prysuraf ac yn un o ddau ar adegau llai prysur.

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Craig Richardson (Rheolwr Tîm Rhanbarthol) ar 07345479119 neu e-bostiwch:[email protected]Mike Bell (Pennaeth Gwasanaeth ) ar 01978 298437 neu e-bostiwch: [email protected]

    Neu Mike Bell (Pennaeth Gwasanaeth ) ar 01978 298437 neu e-bostiwch: [email protected]

    Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

    Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.

    Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.

     

    .

             

     

    .

             


  • Amdanom Ni

  • Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

    Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

    Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.

    Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).

    Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:

    • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
    • Trefniadau gweithio hyblyg
    • Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
    • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
    • Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
    • Aelodaeth hamdden gostyngol
    • Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
    • Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
      • Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
      • Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
        • Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
        • Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
        • Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
        • Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
        • Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
      • Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
      • Caffi Menopos ac arweiniad
      • Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau

    Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:

    • Grymuso
    • Ymddiriedaeth a gonestrwydd
    • Dyhead
    • Cydweithredu
    • Gwneud gwahaniaeth
    • Tegwch


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.