Cyfnod Penodol Hyd Nes 31 Mawrth 2027
Cefnogi rhyddhau’n ddiogel ac yn hyderus o’r ysbyty, a’r gefnogaeth gywir ar waith.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant a deinamig i ymuno â Thîm IAA Torfaen yn yr adran Oedolion a Chymunedau ar gontract cyfnod penodol, gan ganolbwyntio ar ryddhau o'r ysbyty.
Byddwch yn chwarae rôl allweddol ar adeg dyngedfennol, gan gefnogi pobl i ddychwelyd adref gyda'r gefnogaeth gywir, a ffocws cryf ar yr hyn sy'n bwysig, cryfderau ac annibyniaeth. Gan weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol, byddwch yn meithrin perthnasoedd cryf ag unigolion, teuluoedd a phartneriaid ar draws lleoliadau cymunedol ac ysbytai, gan sicrhau bod penderfyniadau’n amserol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn a bod y canlyniadau’n gadarnhaol.
Rydym yn grŵp o dimau amlddisgyblaethol sy'n gweithio'n agos gydag asiantaethau sy’n bartneriaid, i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol oedolion 18 oed a hŷn. Ein nod yw gweithio'n rhagweithiol gydag unigolion i hyrwyddo dewis, rheolaeth, annibyniaeth a chymryd risg cadarnhaol, gan alluogi pobl i gyflawni canlyniadau yn y meysydd sydd bwysicaf iddynt, yn enwedig ar bwyntiau pontio allweddol fel rhyddhau o'r ysbyty.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig. Byddwch yn ymroddgar i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, gan ganolbwyntio ar &slshquot;yr hyn sy'n bwysig&slshquot; i unigolion a chefnogi’r gwaith o gynllunio rhyddhau’n amserol, mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n hyblyg, brwdfrydig ac yn ymroddgar, sy'n gallu gweithio'n gadarnhaol ar draws lleoliadau cymunedol ac ysbytai. Byddwch yn adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf, ystyrlon gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i ddeall eu dewisiadau a chyflawni canlyniadau sy'n bwysig iddynt.
Os ydych chi'n dosturiol, yn gallu addasu, a ffynnu mewn amgylchedd cyflym, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.
Rydym yn croesawi ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, sy'n gymwys i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Melanie Baker, Arweinydd Tîm, ar 01495 761662 neu anfonwch e-bost i melanie.baker@tofaen.gov.uk
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.