Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol
Lleoliad: Tŷ Graddfa, Heol Caerffili, Ystrad Mynach
Tîm: Tîm Rhyddhau o'r Ysbyty
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rydyn ni’n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â'n Tîm Adnoddau Cymunedol - gwasanaeth mawr, deinamig ac amlddisgyblaeth sy'n ymroddedig i gynorthwyo trigolion ledled Caerffili.
Mae'r rôl benodol hon wedi'i lleoli o fewn ein swyddogaeth Rhyddhau o'r Ysbyty, lle byddwch chi’n chwarae rôl allweddol wrth alluogi bod unigolion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty mewn modd amserol, diogel ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydyn ni’n chwilio am ymarferydd llawn cymhelliant sy'n hyderus mewn ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, ac yn gallu gweithio’n gyflym mewn amgylchedd prysur. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd rhyddhau o’r ysbyty yn fanteisiol, er nad yw'n hanfodol. Yn gyfnewid, rydyn ni’n cynnig y cyfle i fod yn rhan o dîm cyfeillgar, blaengar ac sy'n datblygu'n barhaus. Byddwch chi’n elwa o amgylchedd gwaith cefnogol, ynghyd â chyfleoedd ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Gwybodaeth gyfredol am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol y GIG e.e. Gofal Iechyd Parhaus ac ati.
- Y gallu i lunio cynlluniau gofal i ddangos y canlyniadau gofynnol, gan leihau risg a diwallu anghenion unigolion.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Amanda Griffiths ar 07542 943076 neu ebost: griffa7@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.