37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant/pobl ifanc/oedolion anabl? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â ni i asesu a chynorthwyo plant/pobl ifanc/oedolion ifanc anabl a'u teuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu a rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n pontio i fyd oedolion.
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd pontio didrafferth i oedolaeth ar gyfer plant/pobl ifanc anabl ac rydym wedi ailstrwythuro ein tîm anableddau plant i sicrhau bod gennym ddull sy'n canolbwyntio ar y person a bod pobl ifanc yn symud ymlaen i wasanaethau oedolion dim ond pan fyddant yn barod a bod ganddynt gynllun sefydlog ar gyfer byd oedolion. Gwnaethom ymgynghori â phobl ifanc a'u teuluoedd, a ddywedodd wrthym mai dyma'r hyn roeddent ei eisiau. Gwrandawsom a gwnaethom y newidiadau angenrheidiol i'n gwasanaeth.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm Anableddau Plant a Phontio prysur, llawn cymhelliant a chefnogol. Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol mewn gwasanaethau plant neu oedolion ac awydd i arbenigo mewn gweithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion anabl. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso sydd â diddordeb mewn arbenigo yn y maes gwaith cymdeithasol hwn a byddwn yn ystyried ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol sydd o bosibl yn dymuno gweithio llai na 37 awr yr wythnos.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle prin i reoli achosion plant ac oedolion ac i gael amrywiaeth eang o brofiad o reoli achosion ar draws yr ystod oedran o fewn tîm cefnogol.
Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu hymarfer yn unol ag egwyddorion y model ymarfer Arwyddion Diogelwch ar gyfer eu gwaith gyda phlant a'r model ymarfer Canlyniadau/Cryfderau sy'n sail i'r gwaith a wnawn gydag oedolion.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Enillodd ein rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso wobr ‘Datblygu Gweithlu Hyderus a Chynaliadwy’ yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2018.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig yn ein tîm Anableddau Plant a Phontio, cysylltwch â'r rheolwr tîm, Beverley Whiteley yn bev.whiteley@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 07 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 21 & 22 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person