Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Yn sgil dyrchafiadau mewnol rydym ni'n ehangu ein tîm gwaith cymdeithasol. A gyda'n proses ymgeisio newydd mae hi rŵan yn haws i chi ymuno â ni.
Rydym wedi ymrwymo i godi safonau cefnogi plant a'u teuluoedd ac rydym eisiau i bob plentyn yng Nghonwy fod yn ddiogel a chyflawni eu llawn botensial. Gan ein bod ni wir yn gwerthfawrogi gwaith ein Gweithwyr Cymdeithasol, ein nod yw parhau i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael iddynt a lleihau nifer yr achosion maent yn gyfrifol amdanynt, er mwyn gwella'r hyn sy'n cael ei gynnig i'n plant a'u teuluoedd.
Mae'r tîm Asesu a Chefnogi yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth, plant sydd angen eu hamddiffyn a phlant sy'n destun Gweithrediadau Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat.
Un o'n prif nodau yw lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal - oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Er mwyn cyflawni hyn, mae gennym adain hynod ymroddedig o weithwyr cymdeithasol, a gefnogir gan Ymarferwyr Cryfhau Teuluoedd ac Ymyriadau Teuluol, gweithwyr ymroddedig ar ddyletswydd a mynediad at ganolfan asesu breswyl ymyrraeth gynnar ac atal arloesol, Bwthyn y Ddôl. O fewn Bwthyn y Ddôl ac yn rhan o'r gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal, mae gan Weithwyr Cymdeithasol fynediad at Seicolegwyr Ymgynghorol, unwaith eto i gefnogi lle bo angen.
Mae llwybr clir o ran dilyniant a datblygiad yng Nghonwy, ar gyfer gweithwyr newydd gymhwyso a gweithwyr mwy profiadol. Mae gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn dechrau ar gyflog o £34,834 ac ar ôl cwblhau'r Rhaglen Gyfuno (Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus), gallech ennill rhwng £38,223 a £41,418. Mae gennym ein tîm gweithlu ein hunain i gefnogi ein hymrwymiad i'ch datblygu chi fel ymarferwyr. Bydd gennych fynediad at wefan tanysgrifio plant/ oedolion CC Inform a chaiff ymarferwyr eu cefnogi gan dîm y gweithlu i ddefnyddio'r adnodd hwn. Mae gennym Gydlynydd Dysgu drwy Ymarfer dynodedig i gefnogi gweithwyr cymdeithasol gyda'r broses o bontio o ddysgu i ymarfer.
Cewch gyfle i weithio'n hyblyg o gartref ac o swyddfeydd newydd sbon 'Coed Pella' ym Mae Colwyn, sy'n caniatáu i chi gynnal cysylltiad ag adrannau partner gan gynnwys Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai a llawer mwy. Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio'n hyblyg, megis pythefnos 9 diwrnod. Gellir trafod hyn ymhellach yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa o becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau blynyddol (gan ddibynnu ar wasanaeth blaenorol mewn Awdurdod Lleol), Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy'n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i'r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Caiff ymgeiswyr eu cynghori i wneud cais yn gynnar, gan ein bod yn cadw'r hawl i newid y dyddiad cau os derbynnir nifer uchel o geisiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd a'r gofynion hanfodol, darllenwch y Swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm, neu cysylltwch â Mark Devereux am sgwrs ar 01492 575148 neu mark.devereux@conwy.gov.uk .
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr