Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Diogelu a Chyfreithiol
Dyddiad cau 22/01/2026
Cyflogwr
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae tîm Diogelu a Chyfreithiol Conwy wedi ymrwymo i gefnogi plant a'u teuluoedd drwy sicrhau diogelwch a chanlyniadau cadarnhaol. Mae'r tîm yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol gyda mynediad at adnoddau arbenigol a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Cyflogau sy'n cyd-fynd â phrofiad • Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol, gyda lleiafswm o 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Byddwch yn bodloni gofynion Lefel 3 y disgrifiad swydd. • Byddwch eich cyflog rhwng £40,777 a £44,075 yn dibynnu ar eich profiad. • Byddwch yn cael taliad croeso o £3,300 gyda hanner y taliad yn cael ei wneud yn y cyflog misol cyntaf a'r hanner arall yn cael ei dalu yn y mis ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus (mae telerau ac amodau'n berthnasol). • Ymrwymiad i ddiogelwch a chefnogi plant: Nod y tîm yw gwella gallu gweithwyr cymdeithasol trwy leihau llwythi achosion a chynyddu adnoddau i wasanaethu plant a theuluoedd yn well. Rydym yn darparu gwasanaethau i blant sydd angen eu gwarchod, sydd ynghlwm ag achosion cyfreithiol neu gynllunio mabwysiadu. • Amgylchedd gwaith cefnogol: Mae gweithwyr cymdeithasol yn elwa o dîm brwdfrydig, rheolwyr profiadol, goruchwyliaeth reolaidd, a chynghorwyr cyfreithiol. Mae adnoddau'n cynnwys canolfan asesu breswyl a mynediad at seicolegwyr ymgynghorol.
Twf proffesiynol a buddion: Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys opsiynau gweithio o bell a phythefnos naw diwrnod, yn ogystal â phecyn buddion cynhwysfawr sy'n cynnwys cynlluniau pensiwn, hawliau gwyliau hael, a disgowntiau i staff.
Mae Conwy wedi ymrwymo'n gadarn i'r proffesiwn gwaith cymdeithasol, gyda swyddi pwrpasol sy'n canolbwyntio ar ymarfer gwaith cymdeithasol a datblygiad proffesiynol o fewn ein Gwasanaeth Gweithlu.
Os hoffech chi gael gwybod mwy, byddem yn fwy na bodlon cael sgwrs anffurfiol. Mae croeso i chi gysylltu â Jacqui neu Angela gydag unrhyw gwestiynau neu dim ond i ddod i'n hadnabod yn well.
Manylion y Rheolwr i gael sgwrs am y swydd: Jacqui Henson-Cubie, Rheolwr Gwasanaeth, 01492 575332, Jacqui.henson-cubie@conwy.gov.uk Angela Longman, Rheolwr Adran, 01492 575148, angela.longman@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n gyfforddus â chwsmeriaid yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr