Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 awr
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tŷ Tredomen
Tîm: Tîm Maethu
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £40,444- £43,149 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Hoffai Maethu Cymru Caerffili recriwtio gweithiwr cymdeithasol parhaol amser llawn i ymuno â'u tîm cyfeillgar, sefydledig, prysur a llawn cymhelliant. Os oes gennych chi'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd gwerth chweil, rydyn ni am glywed gennych chi.
Bydd angen sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol arnoch chi a'r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â Gofalwyr Maeth, eu teuluoedd a phlant sy'n derbyn gofal. Gan ganolbwyntio ar les a diogelwch plant, byddwch chi'n gallu cynorthwyo ac arwain Gofalwyr Maeth i adeiladu ar eu sgiliau cyfannol yn ogystal ag ymrwymiad i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae’r tîm yn gyfrifol am recriwtio, asesu, cynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth cyffredinol, ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig o aelodau’r teulu/personau cysylltiedig ar gyfer plentyn na all, neu o bosibl na fydd yn gallu aros gyda’i deulu biolegol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg, o fewn ffiniau'r Awdurdod a thu hwnt iddyn nhw, a all gynnwys gweithio gyda'r nos ar y penwythnos.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry ar 07789371781 neu ebost perrycl@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.