Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi'n angerddol am wella canlyniadau i blant a phobl ifanc?
Hoffech chi weithio mewn tîm cefnogol lle mae perthnasoedd cadarnhaol, gwaith uniongyrchol a gwneud gwahaniaeth yn ganolog i bopeth a wnawn?
Mae hwn yn gyfle ar gontract cyfnod penodol o fewn Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau Conwy, ac rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a gweithwyr profiadol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau Plant sy'n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy'n Gadael Gofal.
Mae’r Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn gofal, sydd â phrofiad o ofal, ac sy’n paratoi ar gyfer bywyd fel oedolion. Ein nod yw sicrhau trefniadau teuluol diogel, sefydlog a pharhaol, hyrwyddo ailuno â theuluoedd lle bo hynny'n briodol, a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial drwy gynllunio llwybrau effeithiol.
Beth allwn ni ei gynnig i chi:
• Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn gyda llais y plentyn wrth wraidd pob cynllun.
• Llwythi gwaith rhesymol a rheolaeth gefnogol ar y tîm.
• Mynediad at wasanaethau cefnogi arbenigol gan gynnwys Seicolegydd Mewnol a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Therapiwtig a Theuluol.
• Partneriaethau amlasiantaethol cryf gan gynnwys cysylltiadau agos â CAMHS a sefydliadau partner.
• Trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys pythefnos 9 diwrnod.
• Goruchwyliaeth reolaidd, mentora a chefnogaeth broffesiynol.
• Cyfleoedd datblygu gyrfa drwy raglenni Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus / Porth Agored a hyfforddiant arbenigol..
Amdanoch chi, byddwch yn:
• Meddu ar gymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Cymdeithasol (BA/MA mewn Gwaith Cymdeithasol, CQSW neu DipSW).
• Wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu’n gymwys i gofrestru.
• Yn ymrwymedig i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
• Yn gallu meithrin perthnasoedd cryf a gweithio’n effeithiol gydag asiantaethau partner.
• Yn meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth gwaith cymdeithasol berthnasol ac arferion diogelu.
• Yn gallu teithio’n rheolaidd ledled y sir yn ôl yr angen.
Os ydych yn chwilio am swydd gyfnod penodol werth chweil lle gallwch wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant wrth ddatblygu eich gyrfa eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Noder nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn sefydliad sydd wedi’i gofrestru i noddi gweithwyr.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Liz Rowlands, Rheolwr Adain
( +441492575289 / liz.rowlands@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.