Social Worker - Care & Support and Disabled Children's Team
Mae gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Torfaen swydd wag ar hyn o bryd yn y Tîm Gofal a Chymorth a Phlant Anabl. Mae gwaith amlasiantaeth yn nodwedd bwysig o ddull gweithredu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer darparu gwasanaethau, a byddwch yn ymuno â thîm arloesol ac yn gweithio mewn amgylchedd blaengar ac ymroddgar sy'n dysgu, lle mae ymarferwyr yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Mwy am y Tîm:
Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc o’u genedigaeth hyd nes 18 oed sy'n cael eu hasesu fel rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt, gan gynnwys plant ag anableddau ac anghenion cymhleth. Ein rôl yw cydweithio â phlant, teuluoedd ac asiantaethau partner i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol, adeiladu ar gryfderau'r teulu, a sicrhau bod anghenion a asesir yn cael eu diwallu'n briodol, trwy gynllunio cymorth cymesur ac effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed ac yn parhau i fod yn ganolog i bob penderfyniad.
Mae'r tîm yn ymgymryd â gwaith cynllunio Gofal a Chymorth, adolygiadau a gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, ac yn darparu ymyrraeth statudol barhaus lle bo angen. Rydym yn gweithio'n agos gydag addysg, iechyd, darparwyr seibiannau, a gwasanaethau cymunedol, i gydlynu cefnogaeth sy'n galluogi plant i aros yn ddiogel gyda'u teuluoedd a'u cymunedau lle bynnag y bo modd. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am gefnogi plant ag anableddau, a'u teuluoedd, i gael mynediad at wasanaethau arbenigol, seibiannau byr, a phecynnau cymorth wedi'u teilwra sy'n gwella llesiant, annibyniaeth a gwytnwch y teulu.
Strwythur y Tîm:
1 Rheolwr Tîm
2 Reolwr Tîm Cynorthwyol
4 Gweithiwr Cymdeithasol
5 Gweithiwr Cymorth Cymunedol
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn:
- Gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn perthynas â chynnal asesiadau a llunio cynlluniau gofal.
- Cael mynediad at seilwaith rheolwyr cefnogol sydd â chyfoeth o brofiad ac sy'n hawdd mynd atynt am gyngor, cefnogaeth a phenderfyniadau.
- Magu profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth a gyda gwasanaethau / gweithwyr proffesiynol eraill.
- Cael mynediad at hyfforddiant ôl-gymhwyso a chyrsiau hyfforddiant ehangach.
- Cael mynediad at sesiynau goruchwylio a myfyrio gyda chymheiriaid bob mis.
- Manteisio ar drefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd absenoldeb hyblyg.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Suzy Barrett, Rheolwr y Tîm ar 01495 766636.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.