Mae'r Tîm Anabledd Dysgu’n chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a deinamig i ymuno â ni yn isadran Oedolion a Chymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Rydym yn dîm amlddisgyblaethol sy'n gweithio ar y cyd ag asiantaethau partner i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol oedolion 18 oed ac uwch sydd ag anabledd dysgu. Ein nod yw gweithio'n rhagweithiol gydag unigolion i hyrwyddo dewis, rheolaeth a chymryd risg mewn ffordd gadarnhaol i gyflawni canlyniadau mewn meysydd sy'n bwysicaf i'r unigolyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig a fydd yn gweithio yn ardal Y Dafarn Newydd yn Nhorfaen. Byddwch yn ymrwymedig i weithio trwy ddull sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar 'yr hyn sy'n bwysig' i'r unigolyn.
Rydym yn chwilio am hyblygrwydd, brwdfrydedd ac ymroddiad i weithio'n gadarnhaol gydag unigolion yn y gymuned. Bydd angen i chi allu ffurfio a datblygu perthnasoedd cadarnhaol gydag unigolion a gofalwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau sy'n bwysig iddynt.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sydd wedi'u cydleoli ag iechyd, sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, seiciatrydd, seicolegydd, ThG, cynorthwyydd ThG, therapydd iaith a lleferydd.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Jenny Stedman: jenny.stedman@torfaen.gov.uk neu drwy’r ffôn 01633 648746.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.