Mae'r tîm 15+ yn y Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen (TYPSS) yn recriwtio!
Oherwydd dyrchafiad a newidiadau o fewn y tîm rydym yn edrych i benodi:
x1 Gweithiwr Cymdeithasol Llawn Amser (gwaith hybrid)
Rydym yn dymuno recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol ysgogol ac ymroddgar i weithio gyda Phobl Ifanc.
Y Tîm
Rydym yn cefnogi Pobl Ifanc rhwng 15-25 oed gydag ystod o anghenion cymorth cymhleth. Mae'r tîm yn gweithio gyda
Prif ffocws y tîm yw cynnig cefnogaeth gyson i Bobl Ifanc i'w paratoi i fod yn annibynnol. Fel gweithiwr cymdeithasol yn y tîm byddech yn gweithio'n agos gyda'n Hymgynghorwyr Pobl Ifanc gyda ffocws ar alluogi Pobl Ifanc i ddatblygu gwytnwch ar ôl gadael gofal. Bydd hyn yn cynnwys paratoi Cynlluniau Llwybr sy'n realistig ac ystyrlon i Bobl Ifanc.
Mae gan y tîm ffocws cryf ar sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i Bobl Ifanc yn rhinwedd ein rôl fel eu rhieni corfforaethol, ac ehangu eu gorwelion.
Credwn fod gan bob Person Ifanc botensial ac y gallwch chi fod yn rhan o'u taith i fod yn oedolyn diogel a hapus.
Strwythur y Tîm:
-
1 Rheolwr Tîm
-
2 Rheolwyr Tîm Cynorthwyol
-
5 Gweithiwr Cymdeithasol
-
5 Ymgynghorydd Pobl Ifanc
-
2 Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol
-
1 Cydlynydd Galw Heibio
Beth Fyddwch chi'n ei Gael
-
Amgylchedd tîm cefnogol, profiadol ac ymroddgar
-
Cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau asesu, cynllunio ac ymyrryd
-
Gwaith ar y cyd gyda theuluoedd, asiantaethau a phartneriaid
-
Sesiynau goruchwylio misol a chyfleoedd i fyfyrio gyda chymheiriaid
-
Mynediad at hyfforddiant ôl-gymhwyso a rhaglenni dysgu ehangach
-
Cyfle i ddatblygu arbenigeddau – e.e. cefnogi Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches, Plant sy’n destun Camfanteisio Troseddol/ Camfanteisio Rhywiol
-
Gweithio Amlasiantaeth gyda phartneriaid allweddol o fewn ac y tu allan i'r gwasanaeth
-
Datblygu ymarfer arloesol dan arweiniad pobl ifanc
-
Cyfle i fod yn ymwneud a chymryd rhan mewn cyfleoedd ymchwil ymarferol
Trefniadau Gweithio
-
O leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos yn ein swyddfa Tŷ Pontsychan, Abersychan
-
Opsiynau gweithio hyblyg a gweithio o bell ar gael
-
Defnyddio platfformau rhithwir ar gyfer cyfarfodydd a chyfranogiad
Pam Ymuno â Ni?
Rydym yn deall gofynion gwaith cymdeithasol ac yn blaenoriaethu llesiant ymarferwyr. Byddwch yn rhan o wasanaeth blaengar, sydd â ffocws ar ddysgu, lle mae eich sgiliau a'ch cyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi. Mae craidd y tîm wedi'i sefydlu'n dda ac mae’n cynnwys ymarferwyr profiadol a medrus iawn.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch ag Kate Phillips, Rheolwr Tîm. Rhif ffôn 07973381971 neu e-bost Kate.phillips@torfaen.gov.uk
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.