Am Y Gwasanaeth
Mae'r Tîm Cyn Genedigaeth yn dîm bach, arbenigol sydd wedi datblygu ers 2017 gyda'r prif nod o sicrhau cynllunio priodol yn ystod y cyfnod cyn geni.
Mae ein Tîm Cyn Genedigaeth o fewn yr adran Derbyn ac Asesu. Mae Derbyn ac Asesu yn dîm sy’n gweithio’n gyflym mewn amgylchedd cyffrous. Oherwydd demograffeg Caerdydd, mae'r gwaith yn amrywiol ac yn flaengar.
Mae ymarferwyr yn cadw achosion am gyfnod byr; yn gyffredinol, trosglwyddir gwaith hirdymor yn y cyfarfod cynllunio cyntaf.
Am Y Swydd
Oherwydd natur a chymhlethdod y gwaith, bydd gennych lwyth achosion o rhwng 10-15 achos ac yn gweithio gyda'r teuluoedd tan y pwynt trosglwyddo ar ôl geni.
Mae'r tîm hwn yn darparu:
- ymyriadau, asesiadau a chymorth dwys wedi ei gynllunio yn ystod beichiogrwydd, i rieni pan fo anghenion cymorth a/neu risgiau wedi cael eu nodi. Y gofyniad allweddol ar gyfer atgyfeirio i’r tîm yw nad oes unrhyw blant yng ngofal y rhieni, felly mae hyn yn golygu y gallai fod yna blant hŷn sydd wedi cael eu cymryd o ofal y rhieni.
Nod y tîm yw:
- asesu, cynnig cymorth, creu cynllun diogelwch a rheoli risg o ran anghenion diogelu'r babi sydd heb ei eni gan gynnwys dechrau achosion gofal.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda’r adran Bydwreigiaeth ac asiantaethau partner eraill i sicrhau dull cydgysylltiedig ac mae digon o gyfle ar gyfer gwaith amlasiantaethol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
- brofiad o asesu, cynllunio gofal, cynllunio â ffocws ar y person a hyrwyddo sgiliau rheoli gofal, gan weithio gyda’r holl bartneriaid i nodi a diwallu anghenion cymorth gofal unigolion.
- profiad o reoli llwyth achosion cymhleth gan gynnwys gwaith Llys.
- gradd mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gyfwerth) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â
- sgiliau asesu ardderchog, gyda’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno.
- yn aelod da o dîm hefyd,
- ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â
- sgiliau TG.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jayne Carr ar 02920 536400.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau