Tîm Gofal drwy'r Broses 14+
Am y rôl:
Mae'r Tîm Gofal drwy'r Broses 14+ yn canolbwyntio ar gefnogi ein Plant sy'n derbyn gofal yn ystod eu harddegau ac wrth iddynt symud i fod yn oedolion.
Rydym yn ceisio sicrhau lles, sefydlogrwydd, cyflawniad addysgol, diogelwch a chanlyniadau cadarnhaol ar gyfer pob un o'n Plant sy'n derbyn gofal drwy weithio ar y cyd â nhw, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Rydym yn dîm sefydledig sy'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Cynghorwyr Personol, Gweithwyr Cymorth a Chydlynydd Tîm sy'n cynorthwyo gyda thasgau amrywiol gan gynnwys trefnu a chymryd cofnodion cyfarfodydd, paratoi cronolegau a chymorth busnes cyffredinol.
Amdanoch chi:
Angerdd am helpu i gefnogi pobl ifanc dan anfantais i allu cyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Sgiliau allweddol mewn ymgysylltu â phobl ifanc a meithrin perthynas â nhw all fod yn anodd ymgysylltu â hwy ac sy'n arddangos ymddygiad heriol.
Y gallu i nodi risg a rheoli sefyllfaoedd cymhleth.
Sgiliau asesu ac ysgrifenedig cryf.
Bod yn chwaraewr tîm gyda'r gallu i weithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau ond hefyd y gallu i weithio'n annibynnol yn ôl yr angen.
Ymagwedd hyblyg at weithio ac agwedd gallu gwneud.
Gwybodaeth a sgiliau, neu'r parodrwydd i ddysgu, ynghylch gweithio gyda
Phlant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches.
Eich dyletswyddau:
Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i bobl ifanc gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn.
Gweithio fel rhan o dîm, ymgymryd â thasgau ar sail gylchdro dyletswydd, a chyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol.
Meithrin a chynnal perthynas waith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol.
Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risg.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
Ben Christofides – ben.christofides@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS