37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddau weithiwr cymdeithasol llawn cymhelliant, tosturiol i ymuno â'n tîm gwaith cymdeithasol dynamig a leolir yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae gan dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty rôl hanfodol wrth roi cefnogaeth a chymorth i oedolion a'u teuluoedd ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty. Rydym yn gweithio ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn cynnal asesiadau i hwyluso pontio didrafferth, diogel, ac amserol o'r ysbyty i'r cartref neu i leoliadau gofal amgen. Rydym yn cynorthwyo pobl ar eu taith ysbyty yn ystod adegau o argyfwng i lywio cymhlethdodau prosesau gofal iechyd yn llwyddiannus, a'u cysylltu ag adnoddau cymunedol hanfodol. Mae'r tîm yn chwarae rhan ganolog wrth wella llesiant cyffredinol unigolion drwy hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar gryfderau. Mae'r cyfle hwn yn berffaith i'r rhai sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym ac sy'n ymrwymedig i eirioli dros lesiant yr unigolyn.
A chithau'n weithiwr cymdeithasol yn yr ysbyty, bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
Cynnal asesiadau cynhwysfawr i bennu anghenion yr unigolyn yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Datblygu a gweithredu cynlluniau gofal mewn cydweithrediad â thimau amlddisgyblaethol.
Hwyluso mynediad at adnoddau cymunedol.
Cynnal asesiadau capasiti a mynd i'r afael â'r buddiannau gorau.
Eirioli dros hawliau a gwasanaethau'r unigolyn, gan sicrhau cydymffurfiaeth foesegol a chyfreithiol.
Cynorthwyo gofalwyr.
Gweithio fel tîm amlddisgyblaethol a chymryd rhan mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol.
Cymryd rhan mewn rota ddyletswydd.
Darparu presenoldeb gwaith cymdeithasol ymatebol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, gan ddarparu asesiadau ac ymyrraeth amserol i gefnogi osgoi derbyn i'r ysbyty.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol brwdfrydig a dyfeisgar a fydd yn gallu ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i anghenion y bobl rydym yn gweithio gyda nhw gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau. Mae'r rhinweddau hanfodol yn cynnwys sgiliau cyfathrebu cryf, brwdfrydedd, hyfedredd mewn gweithio amlddisgyblaethol, a'r gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd yn bendant â phartneriaid allweddol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 27 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 28 Awst 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 3 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person