Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Gweithiwr Cymdeithasol - Un Pwynt Mynediad Cyflog

Dyddiad cau 12/06/2026

Cyflogwr

Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Lleoliad

  • Wrecsam
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£38,220 - £40,777 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

  • Ynglŷn â'r Rôl

  • Yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol

    Mae Un Pwynt Mynediad yn bwynt cysylltiad cyntaf, yn derbyn ceisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd a hefyd ymchwilio pryderon diogelu.  Mae Un Pwynt Mynediad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol at ei gilydd i hwyluso rhannu gwybodaeth yn fuan i gefnogi teuluoedd a diogelu plant.   Cyflawnir hyn drwy gasglu gwybodaeth gan wahanol asiantaethau i hwyluso ymyrraeth er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau i blant.  

    Mae Gweithwyr Cymdeithasol Un Pwynt Mynediad angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad perthnasol, yn ogystal â chymhelliant ac angerdd i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i blant.    Bydd disgwyl i chi ymateb i anghenion plant a’u teuluoedd o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol, mae sicrhau bod eu diogelwch a’u lles yn hanfodol.

    Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swyddi hyn mae’n rhaid i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig

    I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Einir Davies, Rheolwyr Tîm ar 01978 292039 neu einir.davies@wrexham.gov.uk


    Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

    Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg
  • Amdanom Ni

  • Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

    Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

    Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.

    Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).

    Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:

    • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
    • Trefniadau gweithio hyblyg
    • Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
    • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
    • Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
    • Aelodaeth hamdden gostyngol
    • Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
    • Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
      • Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
      • Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
        • Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
        • Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
        • Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
        • Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
        • Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
      • Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
      • Caffi Menopos ac arweiniad
      • Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau

    Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:

    • Grymuso
    • Ymddiriedaeth a gonestrwydd
    • Dyhead
    • Cydweithredu
    • Gwneud gwahaniaeth
    • Tegwch


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.