Am Y Gwasanaeth
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd.
Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn cynnig gwaith ymarferol, prysur a diddorol i ymarferwyr fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Mae Canolfan Links wedi'i lleoli wrth galon cymuned amlddiwylliannol ac mae'n dîm mawr, deinamig sy'n ymdrin ag unigolion sy'n ymgyflwyno ag ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Am Y Swydd
Mae hon yn swydd barhaol lawn-amser (37 awr yr wythnos).
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn fanteisiol hefyd a dylai fod gennych brofiad o oruchwylio staff. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd angen profiad o asesu anghenion dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 arnoch a phrofiad o gynllunio Gofal a Thriniaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl. At hynny, mae angen profiad o gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal a chynlluniau rheoli risg cysylltiedig arnoch. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch yn hyderus wrth asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
- Byddwch hefyd yn hyderus wrth gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig, a chynlluniau rheoli risg.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfderau.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â hyfforddiant i gynorthwyo gyda'ch datblygiad proffesiynol ac i'r broses oruchwylio.
- Byddwch eisiau gweithio ym mhrifddinas Cymru mewn gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd gyda chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.
- Bydd angen trwydded yrru lawn, ddilys a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith.
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad ydyn nhw’n eich rhai eich hun.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jade Forbes-Rickard -Team Manager Mental Health, Jade.ForbesRickard@cardiff.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau