Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G09 £35,745 - £38,223
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam swyddi Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymwys mewn Gofal Cymdeithasol ar gael ar draws Wrecsam mewn ystod eang o dimau. Mae gennym oriau amrywiol ar gael, i gyd yn cael eu cynnig ar gytundebau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn cael cyflog cystadleuol o £35,745 - £38,223 y flwyddyn.
Beth am ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW) i Blant?
Wrth ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, bydd gennych ymrwymiad a chefnogaeth lawn gan ein tîm rheoli a chydweithwyr o fewn y gwasanaeth i sicrhau eich bod yn cyflawni eich amcanion a chael y gorau o'r Tair Blynedd Gyntaf mewn ymarfer. Mae ein fframwaith Tair Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer yn gosod ein hymrwymiad i chi a'ch datblygiad.
Yn ogystal cewch ddatblygiad wedi'i ddiogelu ac amser i adlewyrchu, goruchwyliaeth reolaidd gyda'ch Goruchwyliwr, gan gynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus i alluogi twf proffesiynol a llwyth achosion wedi'i leihau (tua 10 achos yn y 6 mis cyntaf).
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod i gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy'n cael effaith.
Mae gan Ofal Cymdeithasol gyfleoedd ar gael i NQSW yn y timau canlynol:
Tîm Cymorth i Deuluoedd
Tîm Asesu ac Ymyrryd
Tîm Anableddau
Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal
Gwasanaeth Maethu
Buddion ychwanegol y byddwch yn ei gael fel Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso fydd:
• Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol
• Mynediad at becyn ad-leoli hyd at £5,000
• Opsiynau gweithio'n hyblyg a'n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
• Rhaglen ymgynefino fanwl
• Rhaglen cymorth i weithwyr
Mae'r rôl hwn yn cefnogi gweithio'n hybrid, cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Beth am glicio 'Gwneud Cais' heddiw i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a chael eich ystyried fel ein Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.