Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
A ydych chi'n chwilio am newid cyffrous? Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol Cymwys rhan amser ymuno â'r Tîm Parhad a Llwybrau yng Ngwasanaeth Plant, Teulu a Diogelu Conwy.
Mae'r tîm yn gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau i blant sydd yn derbyn gofal ac sy'n gadael gofal. Mae yna ystod i wasanaethau cefnogaeth gan gynnwys Seicolegydd Mewnol a Gwasanaeth
Ymyrraeth Therapiwtig a Theuluol i gefnogi unrhyw weithiwr cymdeithasol i ddarparu ymyriadau tymor byr i ganolig yn unol â'r angen a aseswyd. Mae gan y tîm gysylltiadau cryf gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc hefyd.
Mae angen gweithwyr cymdeithasol ymroddedig ar y Tîm Parhad a Llwybrau, sy'n awyddus ac yn gallu gwneud gwahaniaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd gan ddefnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar ganlyniadau a fydd yn cael ei chyd-gynhyrchu gyda llais y plentyn wrth wraidd unrhyw gynllunio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol mewn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd Plant sy'n Derbyn Gofal a Phobl sy'n Gadael Gofal. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo ailuno â gofal rhieni a chefnogi Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig.
Mae'r tîm wedi'i leoli yng Nghoed Pella, Bae Colwyn a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio â phlant a'u teuluoedd/ gofalwyr mewn gwahanol leoliadau. Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir ac ymhellach yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Fiona Carroll, Rheolwr Tîm (01492 575331 / fiona.carroll@conwy.gov.uk) Glain Patterson, Rheolwr Tîm (01492 575156 / glain.patterson@conwy.gov.uk) Claire Walsh, Rheolwr Tîm (01492575122 / claire.walsh@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr