Ynglŷn â'r rôl
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!
Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 2 (Wrth Gefn) i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Yr Hafod. Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch – gallwn ddysgu’r gweddill i chi!
Am y rôl
Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:
- darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal,
- darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol,
- rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn,
- hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden,
- cwblhau cofnodion dyddiol,
- cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta.
Ein cynnig i chi
Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:
- hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol,
- mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela,
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol,
- tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch,
- mynediad i gynllun gostyngiadau ac arbedion ffordd o fyw Vivup,
- cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa,
- cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyflwyno cais
Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed!
Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, mae croeso i chi gysylltu â 01970 633949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol:
- Dydd Sadwrn – Amser a chwarter
- Dydd Sul – Amser a hanner
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Kelly Allan: Kelly-Marie.Allan@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.