Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 7 Hydref a 25 Hydref, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar rôl y Gweithiwr Cymdeithasol.

Mwy yma

Gweithiwr Cymorth a Gofal - Llety Diogel i Blant

Dyddiad cau 11/11/2024

Cyflogwr

Ceredigion County Council / Cyngor Sir Ceredigion

Lleoliad

  • Ceredigion
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Disgrifiad o'r swydd

Ynglŷn â'r rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Lefel 2 - Gofal a Chymorth 30 awr o fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion. Bydd y rôl hon yn gweithio ar rota ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn rhan hanfodol o dîm ehangach gan gynnwys Rheolwr Cofrestredig, Rheolwr Cynorthwyol a Lefel 3 - Gofal a Chymorth.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg. Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.