Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Cymorth Arbenigol

Dyddiad cau 06/09/2026

Cyflogwr

Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin

Lleoliad

  • Sir Gaerfyrddin
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol) - £26,403 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli i ddod â charedigrwydd a newid cadarnhaol i fywydau eraill? “Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Arbenigol rhagweithiol a gofalgar sy'n canolbwyntio ar bobl i ymuno â'n tîm ymroddedig ar sail amser llawn dros dro (27 awr yr wythnos) .

Yng Caemaen  Dydd Tre Ioan rydym yn falch o ddarparu gofal a chymorth eithriadol i oedolion 18 oed a hŷn gydag anableddau dysgu, anableddau corfforol, anghenion cymhleth, ac ymddygiadau sy'n peri pryder. Fel rhan o'n tîm, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth greu amgylchedd parchus sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n hyrwyddo urddas, annibyniaeth a thwf personol i'r rhai rydym yn rhoi cymorth iddynt.

Beth fydd ei angen arnoch:

  • NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu ymrwymiad i gwblhau'r Diploma Lefel 2 QCF o fewn 2 flynedd)
  • Angerdd gwirioneddol dros helpu oedolion ag anghenion amrywiol.
  • Dull rhagweithiol ac ymagwedd ofalgar a pharchus

Yr hyn rydym yn ei gynnig:

  • Rhaglen sefydlu a hyfforddi barhaus wedi'i hariannu'n llawn i'ch helpu i ddatblygu.
  • Mynediad i'n gwasanaethau Iechyd a Llesiant cynhwysfawr i'ch cadw ar eich gorau.
  • Gwyliau blynyddol hael a thâl salwch galwedigaethol
  • Cyfle i fod yn rhan o dîm cefnogol sy'n cael ei yrru gan werthoedd o fewn yr awdurdod lleol.

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth?

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.