Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1025
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Canolfan Ddydd Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 31 Mawrth 2026
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd D
Cyflog: £24,790 - £25,584
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.85 - £13.26
Oriau Contract: 24:00
Dewch i ymuno â'n tîm Mae ein gwasanaethau dydd arloesol cael swydd rhan amser (24 awrs wythnos) yn lleoli i Tre-Ioan Caerfryddin.
Rydym yn darparu gwasanaethau i unigolion dros 18 oed ag anableddau dysgu ac anableddau eraill.Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ymagwedd gadarnhaol tuag at fywyd! Os ydych chi wrth eich bodd yn rhoi gwên ar wyneb rhywun, dewch i ymuno â'n timau gwych!
Bydd eich diwrnod yn cynnwys galluogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu caru ac yn elwa ohonynt (e.e. garddio, cerddoriath neu ffisiotherapi). Bydd hefyd yn cynnwys bod yn rhan o dîm croesawgar lle cewch eich annog i ddysgu a symud ymlaen yn eich rôl.
Rydym yn cynnig rhaglen sefydlu a hyfforddiant â thâl llawn, ynghyd â holl fanteision gweithio i'r awdurdod lleol hwn sy'n cynnwys ein gwasanaeth iechyd a llesiant, polisi gweithio hyblyg, a hawl gwyliau blynyddol hael a thâl salwch.
I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, ffoniwch Michelle Thomas/Catherine Anthony ar 01267 233821
Disgrifiad Swydd: 017485.pdf - 135KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 09/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.