Mae Gwasanaeth Byw Bywyd yn Annibynnol Rhondda Cynon Taf eisiau penodi unigolyn medrus, brwdfrydig ac arloesol i ymuno â'r garfan.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Swyddfeydd y Cyngor, Pentre, Cwm Rhondda ar hyn o bryd.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth un-wrth-un i unigolion a chanddyn nhw ystod o gyflyrrau iechyd meddwl, i unigolion ag anableddau dysgu ac i unigolion sydd wedi gweld newid yn eu gallu corfforol.
Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio dulliau yn seiliedig ar ddeilliannau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Mae'r cymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn gan alluogi unigolion i weithio tuag at wella eu hannibyniaeth a bodloni eu deilliannau personol.
A chithau'n weithiwr allweddol i nifer benodol o unigolion, byddwch chi'n llunio Cynlluniau Unigol i fodloni anghenion neu nodau personol sydd wedi'u nodi gan y Carfanau Asesu. Mae'r gwasanaeth yma'n canolbwyntio ar gymell a chaniatáu i unigolion ddatblygu a chynnal sgiliau sydd eu hangen er mwyn byw yn annibynnol, hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol a chynorthwyo unigolion i fyw bywydau mwy cynhwysol yn eu cymunedau.
Bydd gofyn i chi weithio o'ch pen a'ch pastwn yn ogystal â gweithio yn rhan o garfan a gydag asiantaethau/partneriaid eraill.
Byddwch chi'n darparu cymorth yng nghartref yr unigolyn ac/neu yn un o nifer o leoliadau yn y gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Claire Hughes ar (01443) 424350.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr