Dyma gyfnod cyffrous yng Ngwasanaethau Llety'r Cyngor, wrth inni barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Ein gweledigaeth yw symud o leoliadau math sefydliadol traddodiadol i fodelau galluogi sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo annibyniaeth yn hytrach na chyflymu dibyniaeth.
Mae cyfle cyffrous ar gael i Weithiwr Cymorth Byw Bywyd yn Annibynnol yng Nghanolfan Oriau Dydd Ysbyty George Thomas. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio yn y maes gofal cymdeithasol a chefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae ein carfan ni yng Nghanolfan Oriau Dydd Ysbyty George Thomas yn ceisio deall yr heriau penodol sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia, gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar deimladau. Rhaid bod modd i'n carfan ni ddarparu cefnogaeth broffesiynol a thosturiol i'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth a'u hanwyliaid. Pam mae pobl yn mynychu'n Canolfannau Oriau Dydd? Mae'r rhesymau yn amrywiol ac weithiau'n gymhleth. O ganlyniad, mae’n hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddangos empathi a pharch bob amser.
Mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n ymroddedig, dibynadwy, arloesol ac sy'n gallu defnyddio eu menter eu hunain. O'ch penodi, byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol.
Oes gyda chi ddiddordeb yn y rôl yma? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Ffoniwch Sharon Griffiths (Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd) ar 07936156669 neu e-bostiwch Sharon.Griffiths@rctcbc.gov.uk.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.