Ynglŷn â'r rôl
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ymunwch â’n Tîm yngNghanolfan Padarn!
Wedi’i leoli yng nghanol Aberystwyth, mae Canolfan Padarn yn ganolfan adnoddau groesawgar sy’n ymroddedig i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gofalgar a llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn:
- Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol lleol;
- Eu helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol;
- Grymuso unigolion i gyflawni eu nodau personol trwy ddull sy’n canolbwyntio ar y person.
Os ydych chi’n angerddol am gynhwysiant, annibyniaeth a chreu cyfleoedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol, a dylech fod yn gyfforddus yn gyrru cerbydau trafnidiaeth gymdeithasol fel rhan o’r rôl.
Byddwn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a goruchwyliaeth reolaidd i’ch cefnogi yn eich gwaith.
Mae dull hyblyg yn bwysig, gan y gallai fod angen rhai sifftiau gyda’r nos a phenwythnos i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth
Pam ymuno â ni?
- Gwneud effaith gadarnhaol bob dydd;
- Bod yn rhan o dîm cefnogol a chyfeillgar;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth TîmCeredigion
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â: Diane Williams ar Diane.Williams@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.