Gwasanaethau Oriau Dydd – Anableddau Dysgu
Swyddi gwag achlysurol yn Nwyrain (Ardal Pontypridd) a Gorllewin (Ardal Cwm Rhondda) Rhondda Cynon Taf
Gradd 5 – £13.90 yr awr
Mae Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd i Bobl sydd ag Anableddau Dysgu am benodi aelodau carfan sy'n llawn cymhelliant ac sy'n frwdfrydig i weithio yn ardaloedd yn Nwyrain a Gorllewin Rhondda Cynon Taf, ar sail achlysurol. Byddwch chi'n cyflenwi yn ystod absenoldebau staff ar draws ardaloedd Dwyrain neu Orllewin Rhondda Cynon Taf.
Mae gan y gwasanaeth nifer o ganolfannau a phrosiectau sy'n rhoi gofal, cymorth a chyfleoedd oriau dydd perthnasol i unigolion sydd ag anableddau dysgu, gan gynnwys Awtistiaeth, ac anghenion iechyd cymhleth. Mae'r ddarpariaeth yn diwallu amrywiaeth eang o anghenion, o ofal personol i ennyn diddordeb pobl mewn gweithgareddau strwythuredig ar gyfer grwpiau ac unigolion, un wrth un. Mae cael yr unigolyn sydd ag anabledd dysgu i gymryd rhan, yn ganolog i'r ddarpariaeth.
Mae profiad o ddarparu gofal a chymorth mewn ffordd barchus i bobl sydd ag anabledd dysgu yn ddymunol, yn ogystal â'r gallu i roi cymorth i bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd yn y gymuned.
Bydd gofyn i chi ddefnyddio adnoddau TGCh yn effeithiol, a meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar ardderchog i gadw cofnodion. Rhaid hefyd cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a chyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Cewch chi sesiwn sefydlu, cyfle i gyflawni cymwysterau Gofal Cymdeithasol, hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth a fydd o gymorth i chi i weithio i'r safonau disgwyliedig gan ganolbwyntio ar y person a chan anelu at ddeilliannau.
Oherwydd natur y swydd, bydd yn ofynnol i chi deithio'n annibynnol i leoliadau gwaith ledled ardal Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:
- Dwyrain Rhondda Cynon Taf: Tracey Davies, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01685) 873647
- Gorllewin Rhondda Cynon Taf: Julie Richards, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01443) 436937
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.