Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 30 Oraiu
Math o gontract: Rhan Amser, Cyfnod Penodol Tan 18th Rhagfyr 2026
Lleoliad: Lleoliadau yn y gymuned ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,951- £25,152 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rhaid bod yn berson arbennig i ymgymryd â rôl Gweithiwr Cymorth Cymunedol. Ai chi yw hwn?
Ydych chi'n ofalgar, dibynadwy a chyfeillgar, gydag agwedd gadarnhaol tuag at gynorthwyo unigolion i gyflawni eu nodau a'u dyheadau nhw? Yna, gofynnwch i'ch hun:
Ydw i eisiau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau gyda'r cymorth rydw i'n ei ddarparu? Ydw i'n gweld fy hun fel person cymdeithasol? Hoffwn i fod yn rhan o dîm sydd â'r nod o wneud pobl deimlo'n hapus ac yn fodlon? Os gallwch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae gennych chi'r rhinweddau rydyn ni'n edrych amdanyn nhw i fod yn rhan o'n tîm.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n awyddus i recriwtio un Gweithiwr Cymorth Cymunedol o'n Tîm Cymorth Cymunedol. Rôl Gweithiwr Cymorth Cymunedol yw darparu cymorth i unigolion ag anawsterau dysgu, a dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddol a chyfleoedd gwaith o'u dewis.
Bydd gofyn i chi weithio ar eich pen eich hun un i un yn y gymuned ac mewn sefyllfa grŵp yn ein Prosiect Arlwyo, ein Siop Goffi a’n Menter Dillad.
O ganlyniad, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Cymunedol weithio’n hyblyg gyda ni i sicrhau bod lefel y cymorth sydd ei angen ar gael. Bydd hyn yn golygu gweithio dros gyfnod o 7 diwrnod. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos. Mae mynediad at gar hefyd yn un o ofynion y rôl hon.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Profiad o fewn lleoliad anabledd dysgu.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) gan staff wedi'u lleoli yn y gymuned a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ag unigolion ledled y Fwrdeistref Sirol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) er mwyn gyrru cerbyd y Cyngor ar brydles i deithio ag unigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Er mwyn ymgymryd â'r swydd mae'n orfodol i ddeiliad y swydd basio asesiad gyrru fel y pennir gan rwymedigaethau yswiriant y cerbyd ar brydles.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Moore ar 07514951347 neu ebost: Moores1@caerphilly.gov.uk / Rhay Duggan ar 07546655159 neu ebost: Duggar@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.