37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig y Gorllewin. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol; iechyd meddwl a llesiant emosiynol. Rydym yn gweithio gydag oedolion hŷn ac iau, gyda'r nod o ddarparu cymorth holistaidd i alluogi unigolion i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau. Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; therapi lleferydd ac iaith; fferylliaeth a nyrsio seiciatrig cymunedol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm gwaith cymdeithasol. Cefnogi unigolion yn eu hadferiad i fynd i'r afael â'u problemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau a chyflawni eu canlyniadau.
Bydd hyn yn cynnwys cwblhau ymyriadau byr gydag unigolion i'w cynorthwyo i aros yn annibynnol, a all hefyd gynnwys gwaith uniongyrchol gyda gofalwyr.
Byddwch yn gweithio gydag unigolion mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ a chefnogi unigolion i nodi eu cryfderau a'u galluoedd. Mae sicrhau diogelwch a rhoi gwybod am faterion diogelu yn hanfodol. Bydd yr unigolyn yn monitro risgiau, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol, ac yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol ar gynlluniau gofal.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 26 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: wythnos yn dechrau 31 Awst 2026
Dyddiad y Cyfweliad: wythnos yn dechrau 07 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person